Rydym ni’n croesi ein bysedd ar gyfer ein Tîm Digwyddiadau gan fod un o’u digwyddiadau wedi ei enwebu yn un o gategorïau Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol sy’n cael eu cynnal heno yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd.
Ac maen nhw’n cadw cwmni da gan fod yr enwebeion eraill yn cynnwys Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Croeso Caerdydd (UCLF’17) a’r Long Course Weekend.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Mae O Dan y Bwâu yn ddathliad blynyddol arbennig o dan draphont ddŵr ryfeddol Thomas Telford ym Mhontcysyllte, sydd bellach yn Safle Treftadaeth y Byd. Mae miloedd o bobl yn heidio i’r digwyddiad cerddorol sy’n cynnwys artistiaid lleol ac arddangosfa dân gwyllt anhygoel.
Meddai Amanda Davies, Rheolwr Marchnata a Hyrwyddo: “Rydym ni wrth ein bodd o fod wedi ein henwebu ar gyfer y wobr hon ac ennyn cydnabyddiaeth i dîm digwyddiadau’r Cyngor am eu gwaith caled. Mae’n acolâd gwych i Sir Wrecsam. Hoffaf gymryd y cyfle yma i ddiolch i’n holl aelodau o staff am weithio’n galed iawn i gynnal digwyddiadau tan gamp ar gyfer ein cymunedau.”
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.