Yr wythnos ddiwethaf, fel rhan o ymweliad cyntaf Ryan Reynold a Rob McElhenney â Wrecsam, cynhaliodd Maer, Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Wrecsam ddigwyddiad croeso dinesig ffurfiol i’r ddau ar y Cae Ras a Phêl-droed.
Cynhaliwyd y digwyddiad ar y cae pêl-droed yn hytrach na Siambr y Cyngor yn sgil cyfyngiadau Covid-19.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard, ‘roedd yn wych clywed eu dyheadau ar gyfer y clwb, y cae pêl-droed a Wrecsam, gan gynnwys eu cefnogaeth i’r cais am statws dinas a dinas diwylliant, ac roedd yn galonogol clywed beth oedd gan pobl eraill i’w ddweud, sef ‘pam ddim’’.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Ian Bancroft, “Mae Wrecsam yn lwcus iawn o gael buddsoddwyr mor ymroddgar a thriw i’r ardal a diolchwn iddynt am eu hamser a’u caredigrwydd yn ystod eu hymweliad, edrychwn ymlaen at eu croesawu’n ôl ar gyfer rhagor o achlysuron yn y dyfodol.
Ryan a Rob – “mae’r ddau ohonynt yn hynod o glên”
Dywedodd y Maer, “roeddwn yn falch iawn o fedru croesawu Ryan a Rob yn ffurfiol, mae’r ddau ohonynt yn hynod o glên, agos-atoch, â’u traed ar y ddaear.
“Mae’r ddau yn cael uchelgeisiau mawr i Glwb Pêl Droed Wrecsam sy’n fantastic. Mae ‘ne buzz o gwmpas Wrecsam ar ôl iddynt gymryd y clwb drosodd gyda disgwyliadau enfawr i’r posibilrwydd, yn y dyfodol, o bêl droed uwch gynghrair. Dim pwysau arnynt yn siŵr
“Mae’r dyfodol yn edrych yn dda i’r clwb ac i Wrecsam.
“Diolch Ryan…. Diolch Rob.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL