Mae pobl ifanc yn Wrecsam wedi’u gwahodd i ddod i Tŷ Pawb ar 15 Gorffennaf, 1-4pm, i ystyried dulliau i wella a chynnal eu hiechyd a’u lles.
Enw’r digwyddiad yw ‘Dinas Llonyddwch’ ac mae wedi’i drefnu gan Senedd yr Ifanc – senedd ieuenctid Wrecsam sy’n cynnwys pobl 11 i 25 oed.
Mae Senedd yr Ifanc wedi bod yn gweithio’n galed yn cynllunio a threfnu’r digwyddiad i bobl ifanc eraill yn Wrecsam, a bydd stondinau gwybodaeth yn hyrwyddo cymorth lles i bobl ifanc, a gweithdai yn addysgu am adnoddau a dulliau i wella a chynnal lles iach.
Mae’r gweithdai yn cynnwys sesiynau Metafit, Ymwybyddiaeth Ofalgar, costau byw, ymwybyddiaeth o ddigartrefedd, ymdopi â straen, ac Ymwybyddiaeth o Papyrus ar gyfer atal hunanladdiad ymlith pobl ifanc (i unigolion 16 oed a throsodd yn unig).
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim a gofynnwn i’r bobl ifanc sy’n dymuno bod yn bresennol gadw lle drwy Eventbright.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.