Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Beth am gael ychydig o hwyl a chymryd rhan yng Nghanolbwynt Cyfeillgarwch Wrecsam!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Os wyt ti wrth safle digwyddiad, paid cymryd llun i’w rannu ar-lein. Ffonia am gymorth.
Menyw ifanc yn arwain ymgyrch Rhwydwaith Trawma De Cymru i atal pobl rhag ffilmio wrth safle digwyddiad
Arall
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Beth am gael ychydig o hwyl a chymryd rhan yng Nghanolbwynt Cyfeillgarwch Wrecsam!
Pobl a lleFideo

Beth am gael ychydig o hwyl a chymryd rhan yng Nghanolbwynt Cyfeillgarwch Wrecsam!

Diweddarwyd diwethaf: 2023/07/11 at 10:01 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Erthygl gwestai gan SWS Wrexham

Cynnwys
Dilynwch y Canolbwynt ar FacebookSesiynau galw heibio Technoleg

Mae grŵp cyfeillgarwch sydd wedi’i gynnal gan bobl leol ag anableddau yn mynd o nerth i nerth – ac mae’n chwilio am aelodau newydd i gymryd rhan!

Mae Canolbwynt Cyfeillgarwch Wrecsam yn cyfarfod bob dydd Mercher rhwng 12pm a 3pm yn Yellow and Blue yn Nôl yr Eryrod.

Mae’r canolbwynt yn lle gwych i wneud ffrindiau newydd, cael sgwrs a phaned, a mwynhau llawer o weithgareddau difyr – yn amrywio o fowlio dan do a thripiau i’r sinema, i wylio gemau pêl-droed a mynd i’r dafarn!

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Dywedodd Peter, aelod o’r grŵp: “Os hoffech chi ymuno â ni, dewch i un o’n sesiynau cwrdd wythnosol yn Yellow and Blue. Rydym ni’n grŵp cyfeillgar a bydd croeso mawr i chi.

“Rydym ni’n cael llawer o hwyl ac mae ein sesiynau cwrdd ar ddydd Mercher yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd. Os oes angen cefnogaeth arnoch chi, dewch â rhywun gyda chi.”

Dilynwch y Canolbwynt ar Facebook

Gallwch chi hefyd ddilyn y Canolbwynt Cyfeillgarwch ar Facebook, lle mae aelodau’n rhannu llawer o wybodaeth am bethau i’w gwneud a lleoedd i fynd iddynt.

Mae’r Canolbwynt yn cael ei reoli gan Safonau Gwasanaethau Wrecsam – grŵp o breswylwyr sydd â phrofiad go iawn o anabledd neu salwch.

Maen nhw’n helpu gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd yn Wrecsam i roi’r cymorth cywir i bobl ag anableddau, heb gymryd eu hanibyniaeth oddi wrthynt.

Sesiynau galw heibio Technoleg

Mae’r grŵp hefyd yn cynnal sesiwn dechnoleg wythnosol i helpu pobl ag anableddau dysgu i gael y gorau o’r rhyngrwyd.

Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal bob dydd Iau rhwng 1pm a 3pm yn y Canolbwynt Lles (Adeiladau’r Goron) ar Stryt Caer yn Wrecsam.

Nid oes angen gwneud apwyntiad – galwch heibio i gael sgwrs.

Dywedodd Kelly, aelod Safonau Gwasanaethau Wrecsam: “Gallwn ni eich helpu chi i fynd i’r afael â’ch ffôn neu lechen, tynnu sylw at apiau defnyddiol a dod o hyd i’r hyfforddiant cywir i chi.

“Gallwn ni hefyd ddangos llawer o dechnoleg arall i chi a all helpu â byw o ddydd i ddydd – o glychau ac oriorau clyfar i bennau sy’n gallu eich helpu chi i ddarllen testun ar sgrîn.

“Galwch heibio i’n gweld ni ddydd Iau ac fe wnawn ni geisio eich helpu chi.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Digwyddiad Lles Croeso i Ddinas Llonyddwch
Erthygl nesaf Business Breakfast Llwyddiant Brecwast Busnes Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn Net World Sports

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Os wyt ti wrth safle digwyddiad, paid cymryd llun i’w rannu ar-lein. Ffonia am gymorth.
Menyw ifanc yn arwain ymgyrch Rhwydwaith Trawma De Cymru i atal pobl rhag ffilmio wrth safle digwyddiad
Arall Gorffennaf 7, 2025
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg Gorffennaf 4, 2025
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
DigwyddiadauPobl a lle

Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel

Gorffennaf 4, 2025
trees
Pobl a lle

Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned

Gorffennaf 4, 2025
9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English