Gwahoddir clybiau chwaraeon yn Wrecsam i wneud cais am gyllid o gronfa “Cymru Actif” sydd wedi’i lansio gan Chwaraeon Cymru.
Mae’r cyllid hwn ar gael i ddiogelu chwaraeon cymunedol wrth iddynt baratoi i ailddechrau gweithgareddau’n ddiogel pan fyddant wedi cael caniatâd i wneud hynny yn dilyn pandemig y coronafeirws.
Gall clybiau wneud cais am grantiau o rhwng £300 a £50,000 dan gronfa “Cymru Actif”.
Mae’r cyllid ar gael diolch i’r Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau bod cymunedau ar draws Cymru’n actif nawr ac yn y dyfodol.
Gwneud cais am Gyllid “Cymru Actif”
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi: “Mae hwn yn newyddion da i glybiau chwaraeon cymunedol sy’n parhau i ddioddef yn ariannol o effeithiau’r coronafeirws. Mae chwaraeon ar lawr gwlad yn hanfodol er lles ein cymunedau ac maen nhw’n darparu gwasanaeth gwerthfawr a gwych i’n pobl ifanc. Byddwn i’n annog cynifer ag sy’n bosibl i wneud cais am gyllid “Cymru Actif” er mwyn sicrhau eu bod wedi’u diogelu a’u bod yn barod pan fyddant yn cael caniatâd i ailddechrau eu gweithgareddau.”
Dywedodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell: “Mae chwaraeon ar lawr gwlad wedi ei effeithio’n fawr iawn. Yn ffodus, mae cyllid brys wedi achub nifer fawr o glybiau eisoes, ac rydym yn falch o allu lansio’r gronfa newydd hon a fydd yn darparu hyd yn oed mwy o gefnogaeth ar adeg pan mae mawr ei hangen.
“Mae ein clybiau a’n grwpiau yn hanfodol er mwyn cadw pobl Cymru’n actif. Os na fyddant yn dal i fynd neu os na allant ailagor yn ddiogel, gallwn ddisgwyl argyfwng arall – anweithgarwch ac iechyd gwael. Rhaid i ni beidio â gadael i hynny ddigwydd. Yn amlwg, bydd angen i glybiau addasu llawer o’u gweithgareddau er mwyn iddynt gydymffurfio’n llawn â chanllawiau iechyd a gofynion cadw pellter cymdeithasol. Bydd Cronfa Cymru Actif yn sicrhau bod hynny’n bosibl.”
Mae gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael yma
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN