Mae gwaith adnewyddu ar rif 2-10 ac 38 Henblas Street wedi’i gwblhau’n ddiweddar, sy’n gam sylweddol arall ar gyfer rhaglen Cynllun Treftadaeth Treflun (CTT) Wrecsam sy’n cefnogi gwarchod Ardal Gadwraeth canol ein dinas.
Mae’r cyllid grant a sicrhawyd o dan gynllun CTT Wrecsam wedi gwella ymddangosiad, cymeriad a swyddogaeth 2-10 ac 38 Henblas Street drwy atgyweirio ffabrig hanesyddol yr adeiladau ac adfer nodweddion pensaernïol coll.
Mae perchennog yr adeilad wedi trosi llawr cyntaf 2 a 4 Henblas Street yn 3 fflat stiwdio un ystafell wely. Bu gwelliannau blaen y siop a gwaith addurno sy’n cynnwys adfer blaen siop gwreiddiol rhif 4 gan gynnwys gwydr chwarter crwn y naill ochr a’r llall i fynedfa’r siop a thynnu cladin pren o’r gweadau blaen.
Mae gwaith atgyweirio i bileri cerrig presennol a gwaith maen arall wedi’i gwblhau yn ogystal â gwneud gwelliannau i fynedfeydd siopau ar gyfer hygyrchedd. Mae gwteri dŵr glaw haearn bwrw a phibellau lawr wedi’u gosod yn ogystal â chaeadau rholer a blwch larwm wedi’u tynnu.
Mae’r gwaith adnewyddu adeilad a ariennir drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chynllun Treftadaeth Treflun wedi gwella cymeriad yr ardal, wedi creu cyfleoedd cyflogaeth, wedi gwella’r arlwy llety yng nghanol y ddinas yn ogystal â rhoi cyfle i ddefnyddio adeiladau amlwg yng nghanol y ddinas yn well.
Mae’r gwaith adfywio wedi’i wneud mewn ffordd sy’n ategu ac yn gwella’r dreftadaeth leol a’r adeiladau traddodiadol yng nghanol y ddinas.
Yn hanesyddol, mae Wrecsam wedi colli llawer o’i blaenau siop traddodiadol lle defnyddiwyd deunyddiau a dyluniadau amhriodol nad oes ganddynt fawr ddim perthynas ag arddull draddodiadol yr eiddo presennol yn yr ardal gadwraeth.Fodd bynnag gyda chymorth ariannol gan y rhaglen CTT rydym am adfer ac ail-osod cymaint o nodweddion ac arddulliau treftadaeth bensaernïol â phosibl, gan wella ymddangosiad a chymeriad cyffredinol yr ardal gadwraeth.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol dros yr Economi “Rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn yn Wrecsam dros y blynyddoedd diwethaf wrth sicrhau cyllid allanol i helpu i wella golwg ac ymarferoldeb canol y ddinas ac adeiladau yn yr ardal gadwraeth. “Mae’r gwaith diweddaraf hwn yn rhan fach ond arwyddocaol o’r gwelliannau cyffredinol ac yn gweithio tuag at ein huchelgeisiau i wneud canol y ddinas yn gyrchfan gyffrous a bywiog i drigolion ac ymwelwyr â Wrecsam.
Dywedodd perchennog yr eiddo Tim Steel: “I ddechrau, roedd y prosiect yn ymddangos yn eithaf brawychus gan fod cymaint i’w wneud ond cefais gymorth a chyngor gwych gan swyddogion Cyngor Wrecsam cyn ac yn ystod y gwaith. “Rwy’n hapus iawn gyda’r gorffeniad o ansawdd uchel sy’n gwella golwg gyffredinol yr ardal.”
Cyn yr adfywio

Ar ôl yr adfywio