Mae Cwrs Llysgennad Twristiaeth ar-lein Wrecsam wedi cyhoeddi tri modiwl arall, yn dilyn llwyddiant y modiwlau Efydd cyntaf, a lansiwyd yn gynharach eleni!
Mae cwrs Wrecsam yn rhan o Gynllun Llysgenhadon Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, yn rhoi hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig ardaloedd yng Nghymru.
Mae gan gyfranogwyr gyfle i gwblhau’r tri modiwl arall am Wrecsam yn awr, ac ar ôl eu cwblhau byddant yn Llysgenhadon Arian.
Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru ar gael i bawb ac mae’n ffordd wych o ddysgu mwy am nodweddion unigryw pob lle. Cynigir cyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o themâu. Mae hyn yn cynnwys y Gymraeg, cymunedau, diwylliant, hanes, tirluniau, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded. Mae 3 lefel o wobrau – efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau sy’n cael eu cwblhau. Anfonir gwobrau gan gynnwys tystysgrifau a bathodynnau i bawb sy’n cwblhau’r lefelau.
Ar hyn o bryd mae dros 3,750 o bobl wedi cofrestru i’r cynllun ledled Cymru, gyda dros 2,700 o bobl yn cyrraedd lefel efydd, nid yn unig o Gymru ond o bob rhan o’r DU a thu hwnt. Dyfarnwyd 6,243 o fathodynnau efydd, arian ac aur gyda thua dwy ran o dair o’r cyflawnwyr efydd yn mynd ymlaen i gyflawni aur. Mae 15-20% o ddefnyddwyr yn cofrestru ar fwy nag un cwrs.
Ychwanegodd y Llysgennad, Jen Brierley: “Rwy’n teimlo’n ffodus iawn i fyw yng Nghymru. O fy nghartref gallaf ymweld â thraethau hyfryd, tirweddau mynyddig a bryniau godidog. Gallaf fynd allan a gwylio’r haul yn machlud o frig bryngaer hynafol neu fynd am dro i’r pwynt lle mae’r mynyddoedd yn cwrdd â’r môr gan fwynhau’r golygfeydd sy’n newid drwy’r amser mewn goleuadau gwahanol.
“Yr hyn yr wyf yn ei garu am fod yn Llysgennad Twristiaeth Cymru yw fy mod yn gallu ehangu fy ngwybodaeth am y lle hyfryd yr wyf yn ei alw’n gartref, a’i rannu gydag eraill ar fy llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel bod modd iddynt hwythau fwynhau’r lle arbennig hwn hefyd, wyneb yn wyneb, neu drwy fy lluniau.”
Gyda chwe modiwl ar gael yn awr, mae tîm Llysgenhadon Wrecsam yn bwriadu cyflwyno’r pedwar modiwl arall ar ddechrau 2024, gan alluogi’r rhai sydd wedi cofrestru i gwblhau’r cwrs a dod yn Llysgenhadon Aur.
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam: “Mae gan Wrecsam lysgenhadon gwych eisoes, ac rydym yn croesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd. Mae angen i ni ategu at yr ymwybyddiaeth fyd-eang, a dweud wrth bobl – drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ar lafar – pa mor wych yw’r lle. Byddwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i gofrestru ar gyfer y cwrs a dod yn llysgennad twristiaeth ar gyfer Wrecsam!”
I gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Llysgenhadon Twristiaeth Wrecsam ac i gofrestru, ewch i Llysgenhadon Cymru – Cynllun Llysgenhadon Cymru (ambassador.wales)