Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Peidiwch â chael eich twyllo gan fenthycwyr arian didrwydded y ‘Dolig hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Peidiwch â chael eich twyllo gan fenthycwyr arian didrwydded y ‘Dolig hwn
Pobl a lleArall

Peidiwch â chael eich twyllo gan fenthycwyr arian didrwydded y ‘Dolig hwn

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 8, 2023 11:21 am
Rhannu
Darllen 3 funud
fenthycwyr arian
RHANNU

Gyda’r Nadolig yn agosáu a chostau cynyddol biliau ynni a bwyd, rydym yn gofyn i chi beidio â chael eich twyllo gan fenthycwyr arian didrwydded.

Cynnwys
  • Eich Undeb Credyd
    • Mae benthycwyr arian didrwydded yn fenthycwr arian anghyfreithlon!
    • Mae help ar gael

Nid ydym yn sôn am symiau mawr o arian- gallai fod yn £20 ar gyfer ychydig o anrhegion.  Ond gallai’r swm yna arwain at swm llawer mwy gyda thaliadau llog yn cynyddu wythnos ar ôl wythnos.

Eich Undeb Credyd

Os ydych chi’n cael trafferthion ariannol y Nadolig hwn ac angen cymorth, mae defnyddio eich Undeb Credyd yn ffordd lawer rhatach a diogelach o dderbyn benthyciad.

Mae’r undeb credyd wedi’i drwyddedu ac yn gyfreithiol ac mae’n fenthycwr sydd wedi ei reoleiddio’n iawn, a bydd yn benthyg arian yn gyfrifol.

Dyma rai o’r manteision:

  • Ffurflen gais syml
  • Cyfraddau llog isel
  • Penderfyniadau sydyn
  • Dim cosbau am ad-dalu’n gynnar

I ddysgu mwy ac i ymgeisio, cliciwch yma

Mae benthycwyr arian didrwydded yn fenthycwr arian anghyfreithlon!

Benthycwyr arian didrwydded yw benthycwyr arian anghyfreithlon, ac yn ogystal â chodi cyfraddau llog uchel, maent yn debygol o fygwth, codi braw ac efallai trais i sicrhau ad-daliad.

Mae help ar gael

Os ydych chi eisoes yn cael anawsterau gyda benthycwyr arian didrwydded, y neges ydi fod yna gymorth ar gael.  Gallwch roi gwybod i’r tîm benthyg arian yn anghyfreithiol yn gyfrinachol, ac fe allant eich cynorthwyo chi a mynd i’r afael â’r troseddwyr.

Gallwch gysylltu â nhw ar 0300 123 3311.

FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL

Bydd swyddogion cyswllt cleientiaid arbennig yn cefnogi ac yn cynorthwyo dioddefwyr, gan ddarparu cyngor ar ddyledion a phroblemau eraill.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd Grŵp Costau Byw Trawsbleidiol: “Dim ond cynyddu’r pwysau y bydd benthyg arian yn anghyfreithlon yn ei wneud, er cymaint y demtasiwn, yn ystod yr argyfwng costau byw sydd gennym heddiw.

“Rydw i’n cynghori’n gryf i ddefnyddio’r Undeb Credyd, maen nhw’n gyfreithlon ac mae ganddynt gyngor ac arbenigedd ardderchog i helpu’r rhai sydd angen benthyciadau.

“Os nad ydych chi wedi cysylltu â nhw erioed o’r blaen, gallaf eich sicrhau eu bod yn trin pawb a phopeth mewn modd proffesiynol a chyfrinachol.”

Cysylltiadau defnyddiol:

  • Cyngor ar Bopeth, Wrecsam 0800 7022020
  • Vesta SFS (Cymorth Arbenigol i Deuluoedd – ar gyfer teuluoedd Pwylaidd yng Nghymru) – info@vestasfs.org

Gallwch hefyd ffonio llinell Cyngor i Ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham tourism ambassadors Cwrs Llysgennad Wrecsam yn tyfu – gyda rhagor o fodiwlau yn cael eu cyhoeddi yn ystod dathliad cyntaf Wythnos Llysgenhadon Cymru
Erthygl nesaf Cycling Darparu hyfforddiant diogelwch beicio i 762 o blant mewn ysgolion y llynedd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English