Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyffro yn Yr Orsedd wrth i Fila Rhufeinig gael ei ddarganfod
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyffro yn Yr Orsedd wrth i Fila Rhufeinig gael ei ddarganfod
Y cyngor

Cyffro yn Yr Orsedd wrth i Fila Rhufeinig gael ei ddarganfod

Diweddarwyd diwethaf: 2020/11/12 at 1:55 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Roman Villa
RHANNU

Mae archeolegwyr o Amgueddfa Wrecsam, Prifysgol Caer ac Archaeological Survey West wedi darganfod fila Rhufeinig ger Yr Orsedd, Wrecsam. Y fila hwn yw’r cyntaf o’i fath i gael ei ddarganfod yng ngogledd ddwyrain Cymru ac mae’n ychwanegiad cyffrous i’n dealltwriaeth o’r ardal yn ystod y cyfnod Rhufeinig.

Darganfuwyd y safle drwy gydweithrediad canfyddwyr metel lleol a ddarganfu deunydd Rhufeinig ar y safle, wedi hyn cynhaliwyd arolwg synhwyro o bell a ddatgelodd dystiolaeth glir o strwythur wedi ei gladdu. Mae’r adfeilion yn ymddangos fel ffurf weddol arferol gyda nifer o adeiladau cerrig a theils o amgylch iard ganolog, roedd yr arolwg hefyd yn awgrymu ei fod yn gysylltiedig â system o gaeau, trac, ac adeiladau a strwythurau eraill. Drwy gerdded y caeau ar y safle canfuwyd arteffactau o ddiwedd y ganrif 1af hyd at ddechrau’r 4edd ganrif OC, sy’n awgrymu fod y fila wedi ei feddiannu am y rhan fwyaf o gyfnod rheolaeth y Rhufeinwyr ym Mhrydain.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Goresgynnodd y fyddin Rufeinig Brydain yn 43 OC gan wthio yn gyflym tua’r gogledd a thua’r gorllewin ar draws y wlad. Sefydlwyd y gaer yn nhref Caer oddeutu 74 OC a gyda heddwch cymharol, sefydlwyd rhwydwaith o drefi ac aneddiadau gwledig. Sefydliadau ffermio oedd y rhan fwyaf o filas mewn gwirionedd, er eu bod yn amrywio o fod yn weddol syml eu cynllun i fod yn fawreddog iawn gyda lloriau mosäïig, tai baddon a systemau cynhesu o dan y llawr. Mae’r ffaith fod darnau archeolegol wedi eu canfod wrth gerdded y tir yn awgrymu y gallai’r fila hwn gynnwys rhai o leiaf o’r nodweddion mawreddog hyn.

Meddai Dr Caroline Pudney, Uwch-Ddarlithydd Archeoleg ym Mhrifysgol Caer: “Gallai’r darganfyddiad cyffrous hwn newid ein dealltwriaeth o ogledd ddwyrain Cymru ar ôl y goncwest Rufeinig. Mae dehongliadau blaenorol yn awgrymu fod y rhan fwyaf o bobl yn yr ardal hon yn byw mewn aneddiadau oedd yn gysylltiedig â safleoedd milwrol Rhufeinig neu mewn ffermydd syml oedd yn parhau i ddefnyddio ffurfiau archeolegol tai crwn Oes Yr Haearn. Mae darganfod y fila hwn bellach yn cwestiynau’r naratif yma.”

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl yng Nghyngor Wrecsam ac Aelod Lleol ward Yr Orsedd: “Mae’r darganfyddiad hwn yn anhygoel ac yn tanlinellu’r nifer sylweddol o ganfyddiadau archeolegol gwych sydd wedi eu gwneud yn ac o amgylch Yr Orsedd yn y blynyddoedd diweddar, fel Casgliad Burton o’r Oes Efydd neu’r bar ingot Rhufeinig sydd yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa ar hyn o bryd.”

Mae’r Amgueddfa a’r Brifysgol bellach yn cynllunio rhaglen waith i ymchwilio’r safle ymhellach dros y blynyddoedd nesaf, yn ddibynnol ar gyllid a chaniatâd priodol. Hyd yma, mae’r gwaith ar y prosiect wedi ei gyllido gan y Roman Research Trust a’i gefnogi gan Amgueddfa Wrecsam a Phrifysgol Caer.

Cyffro yn Yr Orsedd wrth i Fila Rhufeinig gael ei ddarganfod
Cyffro yn Yr Orsedd wrth i Fila Rhufeinig gael ei ddarganfod
Roman Villa

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Dr Caroline Pudney, Uwch-Ddarlithydd mewn Archeoleg ym Mhrifysgol Caer, e-bost c.pudney@chester.ac.uk

Neu Steve Grenter, Arweinydd Treftadaeth ac Archifau, Amgueddfa Wrecsam, Ffôn 01978 297462, e-bost: steve.grenter@wrexham.gov.uk

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol green bin Nodyn atgoffa: Casgliadau gwastraff gardd misol yn ystod y gaeaf
Erthygl nesaf Covid-19 Nodyn Briffio’r Cyhoedd Covid-19 – A gaf i? A ddylwn i?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle Mawrth 13, 2026
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall Mawrth 12, 2026
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall Mawrth 12, 2026
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English