Bydd dydd Llun yn nodi dechrau 20fed Wythnos Ffoaduriaid, ac eleni gofynnir i chi gymryd rhan trwy gyflawni un neu fwy o 20 gweithred syml.
Mae Gweithredoedd Syml yn bethau syml y gall pawb ei wneud i ddangos cefnogaeth i ffoaduriaid, dysgu mwy am brofiadau ffoaduriaid a gwneud cysylltiadau newydd yn eu cymunedau. Er enghraifft, fe allech ddewis dysgu ychydig eiriau mewn iaith arall neu ddysgu 5 ffaith am ffoaduriaid y gallwch eu rhannu gyda’ch ffrindiau. Dysgwch fwy am 20 Gweithred Syml yn www.refugeeweek.org.
Mae Wythnos y Ffoaduriaid yn rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol ac addysgol ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae’n annog gwell dealltwriaeth rhwng cymunedau.
“Arddangosfa Gwrthrychau ag Ystyr yn Nhŷ Pawb”
Fel arall, efallai yr hoffech chi ymweld â Thŷ Pawb i weld yr arddangosfa luniau “Gwrthrychau ag Ystyr” a fydd ar ddangos trwy gydol Wythnos Ffoaduriaid. Mae’r arddangosfa bwerus hon yn dangos cyfres o luniau o ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd yma yn Wrecsam, yn gafael mewn gwrthrych sydd o bwys personol iddynt ac yn eu helpu i adrodd stori eu halltudedd.
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL