Fel Tŷ Pawb, cyfleuster celfyddydau a marchnadoedd newydd cyffrous Wrecsam, rydym yn troi ein sylw at y digwyddiad agoriadol, Dydd Llun Pawb, a bydd rhan ohono yn gweld creu “cofroddion” Wrecsam.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae straeon sy’n gysylltiedig â Wrecsam – o’r rhyfedd i’r rhyfeddol i’r da a’r drwg – wedi’u casglu. Bydd pob artist llwyddiannus yn defnyddio stori benodol fel ysbrydoliaeth uniongyrchol ar gyfer dylunio eu cofrodd prototeip.
Caiff chwech eu gwneud i gyd, sy’n golygu bydd angen chwe artist i weithio arnynt ac mae Oriel Wrecsam yn eu comisiynu nawr.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU
Y gyllideb fesul artist yw £3,000, a’r dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 16 Hydref gyda chyfweliadau ar 26 a 27 Tachwedd. Cynhelir y prosiect rhwng mis Tachwedd 2017 a mis Chwefror 2018.
Croesewir ceisiadau gan artistiaid sy’n gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth ar draws dulliau celf. Mae Oriel yn arbennig o awyddus i glywed gan artistiaid sy’n ymgysylltu’n rhagweithiol gyda chymunedau neu bobl yn eu harfer.
Gall artistiaid ar unrhyw gam yn eu gyrfa wneud ais ond ni chaiff rhai sy’n astudio ar hyn o bryd eu hystyried.
Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn yma
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau
COFRESTRWCH FI