Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyfle i noddi arddangosfa GWAITH-CHWARAE yn Tŷ Pawb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cyfle i noddi arddangosfa GWAITH-CHWARAE yn Tŷ Pawb
Pobl a lleY cyngor

Cyfle i noddi arddangosfa GWAITH-CHWARAE yn Tŷ Pawb

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 10, 2019 12:35 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Cyfle i noddi arddangosfa GWAITH-CHWARAE yn Tŷ Pawb
RHANNU

Mae Tŷ Pawb yn dod a maes chwarae antur i’w oriel ar gyfer ei arddangosfa nesaf;

Bydd GWAITH-CHWARAE yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng oedolion a phlant, ac ar greu cofnod i ddathlu gwaith chwarae radical ers yr 1970au ym meysydd chwarae antur byd-enwog Wrecsam.

Craidd yr arddangosfa fydd tirlun chwarae, a gafodd ei ddylunio a’i godi mewn proses ar y cyd rhwng yr artistiaid, Ludicology, staff Tŷ Pawb, ein Tîm Cefnogi Chwarae ac Ieuenctid a meysydd chwarae antur Wrecsam.

CYMRWCH RAN YN YR YMGYNGHORIAD AR GYNLLUN Y CYNGOR 20-22

O fewn y tirlun chwarae bydd gwaith comisiwn newydd gan Morag Colquhoun, sydd wedi creu tecstilau yn arbennig ar gyfer ‘darnau chwarae’ rhyngweithiol.

Bydd gweithiau celf ceirt gwthio ymarferol a gynlluniwyd gan Gareth Griffith wedi eu cynnwys hefyd. Mae’r ceirt wedi eu creu gan blant a staff o brosiectau gwaith chwarae Wrecsam.

Yn ogystal, bydd The Voice of Children, ffilm gan gydweithredfa Assemble sydd wedi ennill Gwobr Turner yn cael ei arddangos yn yr oriel. Anogir Ymwelwyr i chwarae a rhyngweithio gyda’r arddangosfa, lle bydd Gweithwyr Chwarae wrth law i oruchwylio.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Gall bob un ohonom ddeall yr angen i chwarae. Bydd y gwaith gwych sy’n mynd yn ei flaen yn Wrecsam i gynnig darpariaeth chwarae i’n plant yn dod â balchder aruthrol i’r rhanbarth.”

Mae busnesau bellach yn cael eu gwahodd i fynegi diddordeb mewn noddi’r arddangosfa er mwyn helpu i hwyluso sesiynau ymgysylltu o fewn yr arddangosfa ei hun a chynhadledd tua diwedd yr arddangosfa.

Bydd logo(au)’r cwmni neu’r cwmnïau llwyddiannus yn cael eu cynnwys ar ddeunyddiau hyrwyddo gan gynnwys testunau ar waliau’r oriel a thaflenni wedi’u hargraffu. Bydd y cwmni/cwmnïau yn cael eu cydnabod ar bob post ar y cyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â’r arddangosfa, gan gynnwys datganiad penodol i’r wasg i gyhoeddi’r nawdd unwaith y bydd wedi’i gadarnhau. Bydd gwahoddiadau VIP i agoriad a chynhadledd yr arddangosfa, gyda chynrychiolwyr yn cael eu cynnwys mewn unrhyw luniau’r wasg hefyd yn ffurfio rhan o’r pecyn nawdd.

Os ydych am gofrestru eich diddordeb yn y pecyn nawdd neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â 01978 292140 neu e-bostiwch jo.marsh@wrexham.gov.uk erbyn dydd Gwener, Gorffennaf 19.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/project/417?language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN![/button][button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Bydd yn barod am y Ras Ofod Bydd yn barod am y Ras Ofod
Erthygl nesaf Partneriaeth rheilffordd gymunedol ar y trywydd iawn ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol Partneriaeth rheilffordd gymunedol ar y trywydd iawn ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English