Cafodd dros 80 o ferched o wyth ysgol uwchradd wahanol yn y sir gyfle i gystadlu mewn Twrnamaint Pêl-Droed Merched ym Mharc y Glowyr, Wrecsam.
Roedd y digwyddiad, a gafodd ei drefnu gan Dîm Pobl Ifanc Egnïol Wrecsam Egnïol a Sefydliad Cymunedol Cae Ras Clwb Pêl-Droed Wrecsam, yn dilyn 10 wythnos o sesiynau hyfforddiant gan Sefydliad Cymunedol y Cae Ras.
Bu i ferched o Ysgolion Clywedog, Darland, y Grango, Morgan Llwyd, Llannerch Banna, Rhiwabon, Rhosnesni a Sant Joseff gymryd rhan yn y twrnamaint.
Buddugoliaeth i Ysgol Morgan Llwyd
Ysgol Morgan Llwyd ddaeth i’r brig, ar ôl curo Ysgol Darland yn y rownd derfynol, gydag Ysgol Llannerch Banna yn y trydydd safle.
Gwahoddwyd yr enillwyr i wylio gêm gartref Clwb Pêl Droed Wrecsam yn erbyn Tref Halifax.
Bydd y sesiynau hyfforddiant yn parhau i gael eu cynnal yn yr ysgolion drwy gydol y flwyddyn academaidd, gyda gemau eraill ar y gweill yn dilyn llwyddiant y twrnamaint hwn.
Meddai Robert Darlington, Swyddog Pobl Ifanc Egnïol Wrecsam Egnïol: “Un o brif nodau Chwaraeon Cymru o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yw annog a grymuso mwy o ferched i fod yn egnïol a chadw’n egnïol, felly mae ein tîm yn gweithio’n galed i ddarparu mwy o gyfleoedd i fwy o ferched yn Wrecsam gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Rhan o hyn yw sicrhau bod medrau chwaraeon merched yn cael eu cydnabod, eu hannog eu meithrin.
“Mae gennym ni berthynas dda gyda Sefydliad Cymunedol y Cae Ras ac rydym ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud i gyrraedd y nod a helpu merched ysgolion uwchradd fanteisio ar y gweithgareddau allgyrsiol sydd eu hagen arnyn nhw.”
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT