Mae 6 rôl wedi’u hysbysebu ar hyn o bryd ar gyfer Bwrdd Cynghori Tŷ Pawb – rolau a fydd yn allweddol wrth helpu i nodi blaenoriaethau’r cyfleuster a datblygu ei strategaeth yn y dyfodol

Mae gwaith adeiladu’n cael ei gynnal ar Tŷ Pawb ar hyn o bryd yn hen Farchnad y Bobl, sydd wrthi’n mynd drwy drawsnewidiad gwerth £4.5 i greu cyfleuster celfyddydau a marchnadoedd arloesol. Caiff y prosiect ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Wrecsam. Disgwylir iddo agor ei ddrysau ddechrau fis Ebrill.

Mae 6 maes arbenigol a fydd yn cael eu llenwi gan y rhai a all ddarparu profiad a chyngor technegol, er mwyn sicrhau llwyddiant gweithredol gofod y celfyddydau, y farchnad, y safle busnes a’r maes parcio, ac felly yn cyflawni cynllun busnes Tŷ Pawb

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

Mae’r rolau fel a ganlyn

Datblygu Rhaglen Gelfyddydol

Rheoli Gweithredol (Cyfleusterau)

Cynllunio Busnes, Codi Arian a Rheoli Ariannol

Marchnata a Chyfathrebu

Arweinyddiaeth a Strategaeth

Ymgysylltu â Budd-ddeiliaid a Chydraddoldeb

Llywodraethu a Chyfreithiol

Ar y dechrau, bydd y Bwrdd Cynghori yn cwrdd bob mis, yna mor aml ag y bydd angen, ond o leiaf 6 gwaith y flwyddyn

Mae’r rhain yn rolau gwirfoddol, di-dâl.

Os ydych chi’n meddwl y gallech chi gyfrannu at unrhyw un o’r rolau uchod ac yn hoffi cymryd rhan, ewch i weld y swydd-ddisgrifiadau yma ac anfon llythyr sy’n mynegi diddordeb, yn ogystal â CV o brofiad blaenorol at typawb@wrexham.gov.uk neu at Andrew Harradine gyda’r manylion isod..

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Andrew Harradine ar andrew.harradine@wrexham.gov.uk neu ei ffonio ar 01978 315402.
Interviews will take place on 6 and 9 March 2018.

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat

DILYNWCH NI AR SNAPCHAT