Cafodd y Cynghorydd Ronnie Prince ei ethol fel Maer Wrecsam ar 25 Mai, a chawsom gyfle i ddal i fyny â’r Cynghorydd Prince yn ddiweddar wrth iddo ddechrau yn ei rôl newydd, er mwyn rhoi cyfle i breswylwyr ddod i wybod mwy amdano.
Meddai’r Cynghorydd Prince: “Fe’m ganed yn Wrecsam ac rwyf wedi byw yma ar hyd fy oes. Rwy’n dad balch i bump o blant ac yn daid i un-ar-ddeg o blant. Mynychais Ysgol Alexandra ac Ysgol Bromfield cyn symud ymlaen i Goleg Iâl. Cwblheais brentisiaeth gyda T.E.Roberts a chymhwyso fel peiriannydd trydanol. Rwyf hefyd yn hyfforddwr cadw’n heini.”
Mae ganddo nifer o ddiddordebau, sy’n deillio o ddarn o gyngor a gafodd pan yn blentyn. Dywedodd: “Roedd mam bob amser yn dweud wrthyf pan oeddwn yn tyfu i fyny, ‘Ronnie, mae pawb angen diddordeb i gadw eu meddwl yn brysur’. Rwyf wastad yn gwrando ar mam, ac felly mae fy niddordebau bellach yn cynnwys cadw’n heini, ymarfer bocsio, rhedeg, cerdded a seiclo. Rwyf hefyd wedi dysgu fy hun i beintio/arlunio (gweler enghreifftiau o’i waith yn y llun) ac rwyf hefyd yn casglu hetiau trilbi.”
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Mae’r Cynghorydd Prince yn cynrychioli ward Cartrefle ym Mharc Caia ac mae bellach wedi rhannu sut y daeth ynghlwm â gwleidyddiaeth. Meddai: “Dechreuais ymddiddori mewn gwleidyddiaeth lleol yn dilyn fy ymgyrch llwyddiannus i rwystro canolfan gymnasteg leol, a oedd wedi’i lleoli yn ward Cartrefle, rhag cael ei chau. Cefais fy ethol fel cadeirydd y clwb gymnasteg ar y diwrnod y cawsom wybod bod angen gwagu’r safle yn sgil y bwriad i ailddatblygu’r tir lle roedd y safle wedi’i leoli.
“Cynhaliwyd ymgyrch poblogaidd i achub y clwb am tua 18 mis. Fe wnaeth y sylw cyson gan y wasg ac ar y teledu ein helpu i ennill y frwydr. Cyflwynwyd cais am gyllid loteri a sefydlwyd canolfan gymnasteg o’r radd flaenaf ar gyfer plant Wrecsam. Mae nifer o fabolgampwyr wedi llwyddo i fynd ymlaen i gynrychioli Cymru mewn cystadlaethau, gan gynnwys fy mab hynaf.
Siaradodd y Cynghorydd Prince am ei wreiddiau teuluol yn Wrecsam, sy’n mynd yn ôl sawl blwyddyn. Dywedodd: “Roedd fy hen daid, Edward Prince, yn brif saer coed ym Phlas Erddig ym 1782. Mae llun o Edward, a dynnwyd yn ystod ei wasanaeth, yn parhau i gael ei arddangos ym Mhlas Erddig.”
Hefyd, yn anffodus, bu farw ei daid (William Prince) a’i hen daid (Mark Prince) yn Nhrychineb Pwll Glo Gresffordd ym 1934, a hawliodd bywydau 266 o ddynion o Wrecsam a’r ardaloedd cyfagos.
Dywedodd y Cynghorydd Prince ei fod yn teimlo’n gyffrous am ddyfodol Clwb Pêl Droed Wrecsam yn dilyn y buddsoddiad diweddar gan Ryan Reynolds a Rob McElhenney, ac fel jôc, cynigodd ei wasanaeth i’r tîm. Meddai: “Mae Clwb Pêl Droed Wrecsam ar i fyny, ac mae’r disgwyliadau’n uchel yn dilyn buddsoddiad gan sêr Hollywood. Rwy’n siŵr y bydd pawb o’r ardal yn cefnogi’r tîm. Os byddant unrhyw dro angen blaenwr â dau ben-glin gwan, rwyf yma i helpu.”
Gofynnwyd i’r Cynghorydd Prince os hoffai ddweud unrhyw beth arall, nododd: “Mae’n anrhydedd ac yn fraint o’r mwyaf cael fy ethol fel Maer Wrecsam, y dref lle cefais fy ngeni a’m magu. Mae Wrecsam yn dref wych gyda llawer o bobl hyfryd. Rwy’n frwdfrydig ac yn edrych ymlaen yn arw at y flwyddyn nesaf. Pob lwc i bawb yn Wrecsam.”
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF