Dim ond ychydig ddiwrnodau sydd ar ôl i gyflwyno cais i Gystadleuaeth Calendr Rhyfeddodau Wrecsam cyn y dyddiad cau ar 31 Hydref.
Mae’r gystadleuaeth wedi cael ei chynnal ers mis Tachwedd llynedd a gyda mis yn weddill rydym yn obeithiol am y nifer mwyaf erioed o geisiadau erbyn diwedd y flwyddyn.
Fe wnaethom benderfynu cynnal y gystadleuaeth yn dilyn y newyddion y llynedd bod Gogledd Cymru ymysg y pedwar lle gorau yn y byd i ymweld ag o. Mae gan Wrecsam olygfeydd a phensaernïaeth gwefreiddiol yn cynnwys dau safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y Waun ac Erddig a Safle Treftadaeth y Byd yn Nhraphont Ddŵr Pontcysyllte. Rydym wedi ein hamgylchynu gan ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ac o ddiddordeb gwyddonol. Os ydych yn edrych hefyd ar ein treftadaeth ddiwydiannol – mae’n glir bod Wrecsam yn lle prydferth a hanesyddol i fyw ynddo ac i ymweld ag o.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
The competition was launched last November and residents have been sending in entries every month with one winner per month being announced.
Lansiwyd y gystadleuaeth fis Tachwedd y llynedd ac mae trigolion wedi bod yn anfon eu ceisiadau i mewn bob mis gydag un enillydd yn cael ei gyhoeddi bob mis.
Mae set anhygoel o luniau mewn lle yn barod, yn cynnwys y draphont ddŵr, Parc Acton, Rhaeadr y Bers, Bangor-Is-y-Coed ac Eglwys Blwyf San Silyn.
Nid oes gwobr bob mis ond bydd y ffotograffwyr buddugol yn derbyn copi o’r calendr pan mae’n cael ei gyhoeddi’n hwyrach eleni.
Bydd yr holl elw o werthu’r calendr yn mynd tuag at yr elusennau a ddewisir gan y Maer.
Mae’r gystadleuaeth ar agor i ffotograffwyr amatur a gall ceisiadau fod o unrhyw le yn y fwrdeistref sirol a dynnir yn ystod mis Hydref 2017.
Dylid cyflwyno’r lluniau drwy e-bost at calendar@wrexham.gov.uk.
Mae rhagor o wybodaeth ac amodau a thelerau ar gael ar wefan y Cyngor yn www.wrecsam.gov.uk.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.