Mae Uned Diogelwch Trais Teuluol Wrecsam wedi derbyn cyfraniad caredig iawn o ‘dedis trawma’ wedi’u gwau gan breswylydd lleol, Julie Pettigrew, yn ddiweddar.
Tedis wedi’u gwau i gysuro plant sydd wedi profi trawma yw tedis trawma.
Diolchodd Rachel Roberts-Jones – Arweinydd Tîm Cymunedol Wrecsam, yr Uned Diogelwch Trais Teuluol, y Cynghorydd Beverley Parry-Jones – cefnogwr trais ar sail rhyw, cam-drin domestig a thrais rhywiol a Katy Evans – Uwch Swyddog Partneriaeth Cyngor Wrecsam i Julie.
Dywedodd y Cynghorydd Beverly Parry-Jones: “Roedd yn wych gweld y casgliad o eirth lliwgar yn cael eu defnyddio i gysuro plant sy’n mynd drwy gyfnod anodd.”
Mae preswylwyr lleol hefyd wedi bod yn creu blancedi lliwgar i’w rhannu gyda’r sefydliad ar gyfer oedolion a phlant sy’n cyrraedd yno’n ceisio lloches. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr Uned Diogelwch Trais Teuluol yma.