Rydym yn ceisio rhannu gwybodaeth mor eang â phosibl ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam – a’r wythnos hon rydym wedi lansio ein cyfrif Snapchat ein hunain i’n helpu i wneud hynny.
Rŵan, wrth glicio neu lithro ar draws sgrin eich ffôn symudol, gallwch weld diweddariadau gweledol yn syth ar ffurf llun neu fideo i sicrhau bod gennych yr wybodaeth gyfredol o ran ein newyddion, gwybodaeth gymunedol, celfyddydau, hamdden, digwyddiadau a mwy.
Rydym eisoes ar Twitter a Facebook, ac os ydych chi’n defnyddio Snapchat, cofiwch ein dilyn ni.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Beth yw Snapchat?
Mae Snapchat yn weledol iawn. Mae’n wahanol i blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill gan ei fod yn defnyddio lluniau gydag ychydig eiriau ar y lluniau (yn hytrach geiriau gydag ychydig luniau).
Mae’n ap symudol yn unig ac mae wedi bod yn tyfu yn ei boblogrwydd bob blwyddyn ers ei lansio yn 2011.
Dyma un o’r platfformau cyfryngau cymdeithasol sy’n tyfu gyflymaf yn y byd a gyda 200 miliwn o luniau yn cael eu hanfon bob dydd, mae ganddo’r defnyddwyr gwe prysuraf ar-lein.
Gallwch ddilyn ac ychwanegu eich ffrindiau ac anfon negeseuon gyda lluniau, fideo a thestun gyda digonedd o nodweddion a ffilterau i’ch cadw yn brysur.
Sut i’n ychwanegu ni
Ychwanegwch ein enw defnyddiwr ‘CyngorWrecsam’ – mae mor syml â hynny! Gallwch hefyd ychwanegu ein ‘snapcode’ a chael mynediad yn syth i gynnwys dyddiol ardderchog.
A gwnewch yn siŵr eich bod yn ei rannu gyda’ch ffrindiau a’ch cydweithwyr fel nad ydynt yn colli unrhyw beth.
Os nad ydych yn defnyddio Snapchat eto ac eisiau rhoi cynnig arni, lawr lwythwch yr ap o Google Play neu’r App Store.
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.