Gwyddwn eich bod yn bryderus yn ddiweddar ynglŷn â gosod camerâu cyflymder ar y darn o ffordd ar yr A483 rhwng cyffyrdd 5 a 6 i wella ansawdd aer drwy osod cyfyngiad cyflymder o 50mya.
Rydych wedi bod yn gofyn pwy sy’n talu am y cynllun, ac i ble mae’r arian yn mynd? Rydych hefyd wedi codi pryderon am ddiogelwch y ffordd a lefelau sŵn.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Mae’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a chynrychiolydd y cynghorau ar Fwrdd Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, wedi ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd ac Ynni a Materion Gwledig, yr AC Lesley Griffiths am eglurhad. Mae hefyd wedi codi pryderon diogelwch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gludiant, Ken Skates am faterion Diogelwch ar y Ffyrdd.
Dywedodd: “Mae nifer o’r materion a godwyd yn ymwneud â phryderon o ran sut mae’r cynllun wedi cael ei ariannu, i ble mae’r incwm yn mynd, diogelwch ar y ffyrdd a lefelau sŵn, ac maent oll yn faterion sydd wedi cael eu codi gyda mi ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae gan y trigolion hawl i dderbyn atebion.
“Mae pryderon penodol am ddiogelwch ar y ffyrdd wrth i gerbydau sy’n gadael yr ardal dan gyfyngiadau, yn arbennig tuag at Gresford Bank, godi cyflymder, ac mae ein swyddogion wedi amlygu eu pryderon gwirioneddol y bydd cyflymderau amhriodol yn achosi damweiniau.”
“Hoffwn roi sicrwydd i bawb bod adran weinyddu’r Cyngor hefyd yn rhannu’r pryderon hyn, a byddwn yn pwyso ar Lywodraeth Cymru am atebion i’r pryderon.”
Yn ei lythyr, gofynnodd hefyd a oes cynlluniau i’r dirwyon sy’n cael eu cyflwyno, gael eu neilltuo ar gyfer Llywodraeth Cymru, a fydd yn ei dro yn elwa awdurdodau lleol Cymru yn hytrach na thrysorlys y DU.
Rhown wybod i chi beth fydd eu hymateb.
Diolch i Wrexham.com am gael defnyddio eu delwedd uchod.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION