Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyhoeddwyd y 50 bandiau gyntaf ar gyfer FOCUS Wales 2020
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cyhoeddwyd y 50 bandiau gyntaf ar gyfer FOCUS Wales 2020
ArallPobl a lle

Cyhoeddwyd y 50 bandiau gyntaf ar gyfer FOCUS Wales 2020

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 7, 2019 10:52 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Cyhoeddwyd y 50 bandiau gyntaf ar gyfer FOCUS Wales 2020
RHANNU

Yn 2020 cynhelir yr ŵyl arddangos ryngwladol FOCUS Wales am y 10fed tro yn Wrecsam. Bydd dros 250 o actau o Gymru a phob cwr o’r byd yn perfformio yn yr ŵyl yn Wrecsam rhwng 7 a 9 Mai 2020.  Ac mae FOCUS Wales bellach wedi datgelu pwy fydd y 50 act cerddoriaeth newydd cyntaf a fydd yn chwarae yng ngŵyl 2020.

Cynnwys
  • Rhai o’r actau cyntaf i gael eu cyhoeddi yw…
  • “Artistiaid eraill sydd wedi cael eu cyhoeddi yw”
  • “Dros 400 o gynrychiolwyr proffesiynol o’r diwydiant cerddoriaeth”

Rhai o’r actau cyntaf i gael eu cyhoeddi yw…

Blaenwr y band Super Furry Animals ac eicon cerddorol arobryn Gruff Rhys, a fydd yn chwarae am y tro cyntaf yn FOCUS Wales. Bydd band ‘indie buzz’ y Flamingods hefyd yn ymuno â’r ŵyl ar ôl rhyddhau eu halbwm Levitation sydd wedi cael llawer o ganmoliaeth yn 2019. Bydd y cerddorion arobryn Catrin Finch a Seckou Keita yn arddangos prosiect y maent wedi bod yn gweithio arno ar y cyd yn FOCUS Wales, ochr yn ochr ag enillwyr gwobrau gwerin BBC Radio 2 sef The Breath a The Trials of Cato. Hefyd ar y rhestr mae ffefrynnau 6Music JOHN, sydd wedi bod yn creu cynnwrf yn dilyn eu taith ddiweddar yn cefnogi Idles.

OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…

“Artistiaid eraill sydd wedi cael eu cyhoeddi yw”

Georgia Ruth | Gallops | Accü | Art School Girlfriend | Ynys | Buzzard Buzzard Buzzard | Seazoo | Golden Fable | Adwaith | Panic Shack | Worldcub | Goodbye Honolulu | Campfire Social | Natalie McCool | Wolf & Moon | Melin Melyn | Cara Hammond | Bryony Sier | Dienw | Elis Derby | Hannah Willwood | Pint+Blister | Flamingo House | Hellfire Devilles | She’s Got Spies | The Cazales | The Routines | The Royston Club | The Zangwills | Emily Magpie | Eve Goodman | Evie Moran | The Besiders | Chupa Cabra | Eitha Da | Delta Radio | Baby Brave | Kidsmoke | Jack Found | Blind Wilkie McEnroe | Vishten. I weld y rhestr lawn o’r 50 act, ewch i wefan www.focuswales.com yn ogystal ag artistiaid o Ganada, yr Almaen, Iwerddon a’r Iseldiroedd… hefyd 200 o actau eraill sydd heb eu cyhoeddi eto!

“Dros 400 o gynrychiolwyr proffesiynol o’r diwydiant cerddoriaeth”

Bellach, FOCUS Wales yw digwyddiad mwyaf y diwydiant cerddorol yng Nghymru, gyda thri diwrnod o baneli, sgyrsiau a chyngor am y diwydiant, bydd mwy na 400 o gynrychiolwyr proffesiynol y diwydiant yn dod i Wrecsam o bedwar ban byd.  Mae’r siaradwyr gwadd cyntaf i’w cyhoeddi yn cynnwys:  David Silbaugh (Summerfest, yr Unol Daleithiau), Henca Maduro (New Skool Rules, Yr Iseldiroedd), Kaptin Barrett (Gŵyl Boomtown), Emma Zillmann (Gŵyl Blue Dot / Kendal Calling), Lisa Schwartz (Gŵyl Werin Philadelphia, Yr Unol Daleithiau), a Stephen Budd (Africa Express / OneFest).

Cynhelir FOCUS Wales 2020 ar 7, 8 a 9 Mai mewn sawl lleoliad yn Wrecsam, Gogledd Cymru.  Mae bandiau arddwrn ar gyfer y tri diwrnod llawn, gan gynnwys holl ddigwyddiadau FOCUS Wales, ar gael ar www.focuswales.com/tickets

Dyma ragflas o’r arlwy:

Mae FOCUS Wales wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer yr wŷl orau ar gyfer talent newydd yn yr UK Festival Awards. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ym mis Rhagfyr.

Cefnogir FOCUS Wales gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/arolwg/977″] DWEUD EICH DWEUD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dod â chenedlaethau ynghyd yn Wrecsam Dod â chenedlaethau ynghyd yn Wrecsam
Erthygl nesaf Mae Bargen Dwf Gogledd Cymru wedi cyrraedd carreg filltir nodedig Mae Bargen Dwf Gogledd Cymru wedi cyrraedd carreg filltir nodedig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English