High Street

Mae buddsoddi mewn eiddo gwag yn flaenoriaeth ar gyfer adfywio canol y dref.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Bydd prosiect newydd a chyffrous yn caniatáu i ni gysylltu perchnogion eiddo gwag â busnesau a sefydliadau newydd sy’n ceisio ehangu eu lle.

Gellid datblygu mannau hamdden, cyrchfan a diwylliannol o hen unedau manwerthu ar raddfa fach neu fawr nad ydynt wedi eu meddiannu ar hyn o bryd ar y stryd fawr.

Gall busnesau sy’n gobeithio buddsoddi yng nghanol tref Wrecsam wneud cais am grant o hyd at 90% o gost astudiaeth ddichonoldeb strwythurol adeilad bellach – wrth edrych ar drosi eiddo gwag.

Bydd eitemau cymwys trwy’r grant yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:

  • Costau Staff
  • Contractwyr ac ymgynghorwyr
  • Arolygon ar adeilad
  • Astudiaethau dichonoldeb ar adeilad
  • Ymchwil i’r farchnad ar adeilad

Cyn pandemig Covid 19, gwelsom ddirywiad cadarnhaol o ran cyfradd adeiladau gwag canol tref Wrecsam. Roedd hyn yn rhannol oherwydd buddsoddiad gan berchnogion eiddo a oedd wedi’u cymell gan gyfraniadau grant.

Manteision economaidd

Meddai arweinydd Cyngor Wrecsam Cyng. Mark Pritchard: “Da ni wedi bod yn gweithio’n ddiflino o fewn ein rhanbarth politicaidd ac wedi ffeindio ffordd ymlaen i roi parcio yn rhad ac am ddim ar ôl 11yb i helpu cefnogi busnesau yn Wrecsam

“Hoffwn roi diolch i’r holl aelodau clymblaid, gyda phob un yn cefnogi’r fenter – sy’n helpu cefnogi canol y dre.”

Da ni rwan y edrych ymhellach allan ac yn gweithio ar denu mwy o buddsoddiad at Wrecsam a chanol y dref, sy’n golygu llai o adeiladau gwag ac mwy o rhesymau i ymweld a ni – yn cynnwys mynd am statws dinas ac cais Dinas Diwylliant y DU 2025.”

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Nod y prosiect hwn yw helpu i sicrhau bod eiddo gwag presennol yng nghanol y dref yn cael eu defnyddio eto – bydd lleihau nifer yr unedau gwag yn cael manteision pellach fel denu rhagor o fuddsoddiad i ganol y dref, cynyddu nifer yr ymwelwyr ac amser aros, creu swyddi a gwella golwg canol y dref a ffydd ynddo.”

Gellir cyflwyno datganiad o ddiddordeb trwy ddogfen 2 dudalen sy’n darparu manylion am eich prosiect o ran meini prawf gwaith cymwys fel a restrir uchod, a sut bydd eich prosiect o fudd i adfywiad hirdymor, cynaliadwy, canol y dref trwy fuddsoddi mewn eiddo gwag, gan gynnwys rhai o’r buddion economaidd a allai gael eu gwireddu o ganlyniad i’ch prosiect.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Leanne.Taylor@wrexham.gov.uk

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL