Erthygl wadd gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn dathlu Gwirfoddolwyr Wrecsam yn ystod dwy seremoni arbennig yn rhan o ddathliadau Wythnos Genedlaethol Gwirfoddoli!
Cafodd mwy na 100 o wirfoddolwyr Wrecsam eu cydnabod yn ystod Dathliadau Wythnos Gwirfoddoli a gynhaliwyd gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam ddydd Mercher, 7 Mehefin ym Mwyty Iâl, Coleg Cambria. Am y tro cyntaf, cynhaliwyd dau ddigwyddiad; digwyddiad yn y prynhawn i oedolion yn gwirfoddoli a digwyddiad min nos yn benodol i wirfoddolwyr ifanc.
Croesawodd Prif Swyddog Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, Dawn Roberts y gwesteion a chyflwynodd y gwesteion arbennig a’r siaradwyr gwadd. Maer Wrecsam, Andy Williams oedd y siaradwr gwadd a fo gyflwynodd y tystysgrifau yn nigwyddiad y prynhawn. Uchel Siryf Clwyd, Kate Hill Trevor fu’n llywyddu yn y digwyddiad ieuenctid yn nes ymlaen yn y noson.
Rhannodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Andy Williams, ei angerdd am wirfoddoli gyda’r gynulleidfa oedd wedi ymgynnull. Cafodd ei gydnabod am ei ymdrechion gwirfoddoli fel un o’r 500 o Gefnogwyr y Coroni a dderbyniodd bin Coroni swyddogol a ddyluniwyd yn arbennig, a thystysgrif wedi’i arwyddo gan Frenin Charles III a Brenhines Camilla a chafodd ei wahodd i fynychu un o ddathliadau swyddogol y Coroni.
Dywedodd yr Uchel Siryf Kate Hill Trevor, “Mewn byd o declynnau a thechnoleg, mae’n bwysig peidio ag anghofio pwysigrwydd cyfathrebu a chymuned, ac mae Wythnos Genedlaethol Gwirfoddoli yn gyfle gwych i ni gyd gydnabod a diolch i’r miliynau o bobl sydd yn rhoi o’u hamser a sgiliau i elusennau a phrosiectau cymunedol.
Yn syml, mae gwirfoddolwyr wrth wraidd pob cymuned yn y DU ac mae hi’n amlwg bod y cyfraniad y mae pobl yn ei wneud i gymdeithas trwy wirfoddoli yn gwbl hanfodol ym myd heddiw. Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn amser i ddathlu a chymeradwyo gweithredoedd a gwaith caled pob gwirfoddolwr, ac mae’n rhoi pleser i mi heddiw ychwanegu fy niolch personol i bawb ohonoch yma heddiw.”
Bu Chris Buchan o Lywodraeth Cymru yn cydnabod nid yn unig cyfraniad y bobl ifanc i’r gymuned ond hefyd y rhieni sy’n meithrin ac yn cefnogi eu gweithgareddau gwirfoddoli.
Cyflwynodd Nia Greer o Vision Support Wrexham wobr arbennig i’r gwirfoddolwr Pam Lewis er cof am y diweddar Sue Lees – gwirfoddolwr ers amser maith a oedd yn gefnogwr ac yn eiriolwr gweithgar iawn i bobl oedd yn colli eu golwg.
Mwynhaodd y gwirfoddolwyr ifanc gyngerdd gan gôr Dynamic Signing Sensations. Bu pawb yn curo dwylo yn ystod eu perfformiad bywiog o glasuron pob a sioeau cerdd.
Dywedodd Dawn Roberts-McCabe, Prif Swyddog Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, “Roeddem wrth ein boddau gydag ymateb y gymuned leol a’u hawydd i ddathlu’r holl wirfoddolwyr gwych sydd yn rhoi o’u hamser yn wirfoddol. Rydym ni’n gwybod mai dim ond crafu wyneb y gymuned wirfoddoli rydym ni wedi’i wneud ac rydym ni’n gwahodd unrhyw sefydliadau sydd heb allu cymryd rhan heddiw i gysylltu â’r tîm yng Nghymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam. Fe fyddem ni wrth ein boddau yn trefnu bod eu gwirfoddolwyr yn cael eu dathlu yn y dyfodol agos.”