Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r Eisteddfod a llawer o sefydliadau partner a gwirfoddolwyr eraill i sicrhau y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol sy’n cael ei chynnal yn Wrecsam eleni yn llwyddiant ysgubol.
Mae sawl blwyddyn o waith cynllunio a chydlynu yn dwyn ffrwyth wrth i Wrecsam gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 2 Awst a 9 Awst.

Rydyn ni’n annog pawb i gymryd rhan ym mhrosiect ‘Harddu‘ yr Eisteddfod fel y gallwn estyn croeso lliwgar a chreadigol i’r rhai sy’n ymweld â Wrecsam. Mae rhai busnesau eisoes yn cymryd rhan (galwch draw i Dŷ Pawb am ysbrydoliaeth – mae llawer o’r masnachwyr wedi bod yn brysur yn addurno yn ogystal â chysylltu â Helo Blod am help gyda’u Cymraeg).

Ffordd wych arall o gymryd rhan yw cofrestru fel gwirfoddolwr. Mae llwyth o gyfleoedd i wirfoddoli fel stiward neu roi help llaw ar y Maes yn ogystal â chymryd rhan gyda grwpiau codi arian lleol a mynychu digwyddiadau codi arian.
Mae’r Eisteddfod yn dibynnu ar ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd. Gallwch ddewis cyfrannu trwy ymweld â’u tudalen roddion. Os ydych chi’n gwmni sy’n chwilio am gyfleoedd noddi gallwch chi gysylltu â’r Eisteddfod yn uniongyrchol gwyb@eisteddfod.cymru.

Yn ogystal â’r ŵyl wythnos o hyd, bydd Canol Dinas Wrecsam yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ‘Ffrinj Wrecsam’ gyda llawer yn digwydd yn Nhŷ Pawb yn ogystal â lleoliadau eraill o amgylch y ddinas. Gallwch weld digwyddiadau sydd wedi’u rhestru neu restru eich digwyddiad ‘Ffrinj Wrecsam’ eich hun drwy ymweld â’n Tudalen Digwyddiadau.

Bydd Tŷ Pawb hefyd yn curadu Y Lle Celf, prif oriel y Maes, gyda disgwyl i hyd at 40,000 o bobl ymweld. Cyfle gwych i ledaenu’r gair am ganolfan ddiwylliant glodwiw Wrecsam ac annog pobl i ymweld â Wrecsam.
Bydd bysiau gwennol rheolaidd am ddim yn rhedeg rhwng gorsaf drenau Wrecsam Cyffredinol, yr orsaf fysiau yng nghanol y ddinas a’r Maes gan ddod â llif cyson o ymwelwyr i ganol y ddinas. Bydd y bysiau gwennol yn rhedeg rhwng 8am a 12 hanner nos.

Ar y Maes bydd gennym ni ‘Bentref Wrecsam,’ gyda phob math o weithgareddau a digwyddiadau. Bydd staff a gwirfoddolwyr yn siarad ag ymwelwyr ac yn rhoi gwybodaeth iddynt am Wrecsam a’r hyn sydd gennym i’w gynnig. Bydd map a llyfryn ymwelwyr hefyd yn cael eu dosbarthu ar y Maes yn annog ymwelwyr i archwilio Canol Dinas Wrecsam a’r sir. Bydd 50,000 yn cael eu dosbarthu i ddechrau.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Nigel Williams, “Yr Eisteddfod yw gŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop, ac mae’n arddangosfa a dathliad o’n hiaith, a’n diwylliant.
“Y busnesau lletygarwch a manwerthu a fydd yn elwa fwyaf o ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol fydd y rhai sy’n cofleidio ystyr yr Eisteddfod ac yn cymryd rhan.
“Bydd hyd at 175,000 o ymwelwyr â’r Maes ym mis Awst a fydd yn debygol o fod eisiau ymweld â Chanol Dinas Wrecsam, yn ogystal â’r sir ehangach i fwyta, yfed, archwilio, aros, cymdeithasu a siopa.
“Yn draddodiadol, mae nifer yr ymwelwyr â’r Eisteddfod yn cynyddu yn ystod yr wythnos yn hytrach na chyrraedd uchafbwynt yn gynnar, felly mae hwnnw’n ffactor sy’n werth ei ystyried wrth gynllunio’r wythnos.”
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Gynllunio Strategol, Diogelu’r Cyhoedd a’r Gymraeg, y Cynghorydd Hugh Jones, “Bydd defnyddio ychydig o Gymraeg ar hysbysfyrddau, wrth groesawu cwsmeriaid neu ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith fawr. “Mae Helo Blod, y gwasanaeth cyfieithu Cymraeg am ddim, yn barod i fusnesau yn Wrecsam gysylltu â nhw er mwyn iddyn nhw allu helpu gyda’u cynnwys Cymraeg.
“Gallwch chi hefyd gysylltu â Helo Blod am wasanaeth gwirio testun os ydych chi’n gallu ysgrifennu yn Gymraeg ond eisiau gwneud yn siŵr ei fod yn hollol gywir.
“Mae Helo Blod hefyd yn cynnig bathodynnau a chortynnau ‘Iaith Gwaith’ y gall eich staff eu gwisgo i ddangos i gwsmeriaid eu bod nhw’n gallu siarad neu’n dysgu Cymraeg.