Gydol mis Rhagfyr, bydd Tîm Sgamiau’r Safonau Masnach Cenedlaethol yn cynnal ymgyrch SCAMnesty i ofyn i bawb gadw llygad allan am unrhyw negeseuon twyllodrus a’u hanfon atynt i’w harchwilio.
Rwy’n credu fy mod wedi derbyn post twyllodrus
Os felly, dylech ei anfon ymlaen at Dîm Sgamiau’r Safonau Masnach Cenedlaethol i’w archwilio.
Gallwch ei anfon at FREEPOST, NTSST, Mail Marshalls.
Bydd y tîm yn ymateb i’r rheiny sy’n anfon eu post gan ddefnyddio’r cyfeiriad Freepost.
Gallwch ddarganfod mwy am yr ymgyrch SCAMnesty a darllen polisi preifatrwydd y tîm ar eu gwefan.
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Masnachu a Thrwyddedu, “Mae sawl math o dwyll, ac mae’r ymgyrch hwn yn arbennig i’r cynigion annisgwyl hynny sy’n cyrraedd drwy’r post. Cofiwch eu hanfon ymlaen er mwyn atal pobl eraill rhag cael eu dal allan gan y masnachwyr troseddol hyn.”
Mae Sgamiau Ffioedd Ymlaen Llaw yn aml yn cynnwys:
- Iaith neu stampiau/seliau swyddogol
- Y swm yr ydych yn gymwys iddo (£147,000) yn yr achos hwn gan eu bod yn gwybod y bydd hyn yn denu pobl
- Ymdeimlad o frys (ymateb o fewn 7 diwrnod, cyn y dyddiad cau ac ati.)
- Tystysgrifau neu sieciau ffug o bryd i’w gilydd
- Defnyddio eich enw drwy gydol y llythyr er mwyn gwneud iddo ymddangos yn bersonol i chi
- Gofyn am arian parod ymlaen llaw fel “ffi weinyddol” i ryddhau cyllid yr honnir eich bod yn gymwys iddo
Mae Sgamiau Clirweledydd neu Seicig yn aml yn cynnwys:
- Addewidion o hapusrwydd, gobaith, arian, ac ati, i werthu breuddwyd i’r derbynnydd
- Llun o’r clirweledydd er mwyn gwneud i’r llythyr ymddangos yn fwy personol
- Defnyddio enw cyntaf y derbynnydd drwy gydol y llythyr
- Gofyn am arian parod i gael rhagor o wybodaeth/manylion penodol am eich dyfodol
- Cynnig addurnau, trysorau neu gerrig swyn lwcus – am bris
Darllenwch yr erthygl hon am gyngor am fathau eraill o dwyll:
Byddwch yn ymwybodol o’r sgamiau diweddaraf – Stopio, Herio, Diogelu
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI