Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Byddwch yn ymwybodol o’r sgamiau diweddaraf – Stopio, Herio, Diogelu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Byddwch yn ymwybodol o’r sgamiau diweddaraf – Stopio, Herio, Diogelu
Y cyngor

Byddwch yn ymwybodol o’r sgamiau diweddaraf – Stopio, Herio, Diogelu

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 5, 2022 8:57 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Scams
RHANNU

Wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf, mae llawer o ansicrwydd o hyd am gostau byw a pha help, cyngor a gwybodaeth sydd ar gael y mae modd dibynnu arnynt.

Cynnwys
  • Cyfrineiriau Untro
  • Sgamiau Rhamant
  • Sgamiau Dynwared

Rydym yn sôn am rai pethau rydym ni’n ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd a allai gostio’n fawr i chi dros y misoedd nesaf os na fyddwch chi’n Stopio, Herio a Diogelu

Cymrwch ran yn ein harolwg newid hinsawdd

Cyfrineiriau Untro

Rydym yn ymwybodol bod troseddwyr yn cysylltu â phobl dros y ffôn/neges destun i ddweud eu bod yn gweithio i’ch banc a bod angen eich cyfrinair untro arnynt am un o’r rhesymau canlynol:

  • Prosesu hawliad twyllodrus
  • Prosesu ad-daliad ar eich cyfrif
  • Atal taliad rhag cael ei brosesu
  • Adfer arian i’ch cyfrif

Ni fydd eich banc FYTH yn gofyn i chi am eich cyfrinair untro. Os bydd unrhyw un yn gofyn amdano, rhowch y ffôn i lawr oherwydd sgiâm ydyw.

Sgamiau Rhamant

Dyma lle bydd troseddwyr yn creu proffiliau ffug a’u defnyddio i feithrin perthynas gyda chi er mwyn gofyn i chi am arian yn y pen draw.

Dyma rai awgrymiadau gwych i’ch diogelu chi:

  • Peidiwch ag anfon arian, buddsoddi na rhannu manylion eich cyfrif banc gyda rhywun nad ydych chi wedi’u cyfarfod.
  • Peidiwch byth â phrynu cardiau anrheg/talebau ar gais rhywun arall oherwydd gall hyn fod yn arwydd o sgiâm.

Peidiwch byth â rhannu copïau o’ch dogfennau personol fel eich pasbort neu eich trwydded yrru.

Sgamiau Dynwared

Dyma lle bydd troseddwyr yn eich perswadio i ddarparu manylion personol a/neu ariannol wrth smalio eu bod yn gweithio i Vanquis, eu bod yn ffrind, aelod o’r teulu, yr heddlu, eich banc, cwmni cyfleustodau neu adran y llywodraeth fel Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi.

Dyma rai awgrymiadau gwych i’ch diogelu chi:

  • Peidiwch byth â rhannu eich rhif PIN na manylion eich cerdyn, ni fydd cwmni yn eich bygwth er mwyn cael rhain.
  • Ffoniwch ffrindiau neu aelodau o’r teulu gan ddefnyddio dull cyswllt arall er mwyn gwirio bod y cais yn ddilys.
  • Ffoniwch y cwmni ar rif ffôn rydych chi’n ymddiried ynddo, fel y rhif ar eu gwefan neu’r ap ffôn symudol, nid oddi ar y cyfryngau cymdeithasol na Hysbyseb Google.

Rydym hefyd yn ymwybodol o droseddwyr yn dynwared darparwyr ynni a’r llywodraeth i dwyllo defnyddwyr i rannu manylion eu cerdyn neu eu cyfrif. Mae’r troseddwyr hyn yn gofyn i ddefnyddwyr glicio ar ddolenni i wneud cais am filiau ynni am bris gostyngol dan y Cynllun Cymorth Biliau Ynni. Mae hwn yn ostyngiad awtomatig ac nid oes angen i chi wneud cais amdano.

Mae troseddwyr yn arbenigwyr ar ddynwared pobl, sefydliadau a’r heddlu. Maen nhw’n treulio oriau’n eich ymchwilio chi ar gyfer eu sgamiau, gan obeithio y byddwch chi’n tynnu eich sylw am funud. Stopiwch, meddyliwch a heriwch. Gallai eich diogelu chi a’ch arian.

Gofynnwch i chi’ch hun bob amser “allai hwn fod yn ffug?” Mae gennych chi berffaith hawl gwrthod neu anwybyddu unrhyw gais. Dim ond troseddwyr wnaiff geisio eich rhuthro neu eich dychryn chi.

Cysylltwch â’ch banc ar unwaith os ydych chi’n credu eich bod wedi cael eich twyllo gan sgiâm, a rhowch wybod i Action Fraud am hyn.

Defnyddiwch ffynonellau gwybodaeth y gallwch ymddiried ynddynt yn unig:

  • Llywodraeth Cymru
  • Llywodraeth y DU
  • Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi
  •  Cyngor Wrecsam

A chofiwch roi gwybod i Action Fraud am unrhyw negeseuon testun neu negeseuon e-bost amheus naill ai ar-lein https://www.actionfraud.police.uk neu dros y ffôn 0300 123 2040

Cymrwch ran yn ein harolwg newid hinsawdd

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.yourvoicewrexham.com/arolwg/1663 “] Cymerwch ran yn ein harolwg
[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol £50,000 mewn grantiau Dinas Diwylliant ar gael – Ymgeisiwch rwan! £50,000 mewn grantiau Dinas Diwylliant ar gael – Ymgeisiwch rwan!
Erthygl nesaf Madchester The Madchester Experience – 21/10/22 – Tŷ Pawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English