Rydym ni’n chwilio am Gymhorthydd Dyraniadau i helpu â gwaith dyrannu ein stoc dai.
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus reoli cofrestrau’r Cyngor, gwneud gwaith cyn cynnig tenantiaeth, ymweld â chartrefi, bod yn un pwynt cyswllt i ymgeiswyr sydd ar y gofrestr dai a bod yn gyfrifol am gyfathrebu â’r defnyddiwr gwasanaeth ynglŷn â phob agwedd ar y broses.
Beth sydd i’w ddisgwyl gan y Cymhorthydd Dyraniadau?
- Bod yn bwynt cyswllt i ymgeiswyr ar gofrestr dai’r Cyngor a bod yn gyfrifol am gyfathrebu â nhw am bob agwedd ar y broses ac ymdrin ag unrhyw bryder neu ymholiad.
- Gweithio mewn partneriaeth â’r holl adrannau mewnol ac asiantaethau allanol i sicrhau bod dangosyddion perfformiad corfforaethol yn cael eu bodloni ynghlwm ag eiddo gwag, ceisiadau ar y rhestr aros ac atal digartrefedd.
- Meddu ar set benodol o sgiliau penderfynu a dadansoddi, gan y bydd angen i chi wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth sensitif a chyfrinachol ynghlwm ag amgylchiadau cleient yn aml.
- Sgiliau cyfathrebu a thrafod er mwyn cyfleu gwybodaeth a phenderfyniadau sydd weithiau yn gymhleth ac yn ddadleuol i unigolion a allai fod yn ddiamddiffyn neu, ar adegau, efallai yn dreisgar neu’n ymosodol.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag yw eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Ystod gyflog: G04 £18,933 – £19,312
Oes gennych chi ddiddordeb? Gallwch wneud cais ar-lein. yma