Gall mwyafrif rhieni plant 3 i 4 oed sy’n gweithio gael cymorth y llywodraeth gyda chostau gofal plant.
O dan y Cynnig Gofal Plant i Gymru, gallwch hawlio 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar yng Nghymru yr wythnos am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Y nod yw gwneud bywyd ychydig yn haws i rieni drwy gynnig i helpu gyda chostau gofal plant.
Mae’r cynnig eisoes wedi helpu rhieni dros Gymru i ddychwelyd i’r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio’n fwy hyblyg.
Beth bynnag mae’r cynnig yn ei olygu i chi a’ch teulu, peidiwch â cholli allan ar eich hawl i gymorth gan y llywodraeth gyda gofal plant.
Mae ceisiadau ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru ar agor rŵan ar draws Cymru.
Os ydych chi’n ddarparwr gofal plant, gallwch ddod o hyd i wybodaeth a chanllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru.
Beth sydd wedi’i gynnwys yn y cynnig?
Mae Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn golygu mod mwyafrif rhieni plant 3 i 4 oed yn gallu hawlio arian tuag at gostau gofal plant.
Mae hyn yn golygu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yng Nghymru ar gyfer rhieni cymwys.
Mae’r 30 awr yn cynnwys lleiafswm o 10 awr o addysg gynnar yr wythnos a mwyafswm o 20 awr yr wythnos o ofal plant.
Mae ar gael am 48 wythnos y flwyddyn, sy’n golygu fod y cynnig yn gallu helpu gyda gofal plant dros ychydig o wyliau’r haf.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y Cynnig Gofal Plant i Gymru a gwneud cais yma.
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR