Mabwysiadwyd Safonau’r Gymraeg 2016 ac mae’n ofynnol i ni gydymffurfio gyda 171 o Safonau.
Mae’r Safonau hyn yn sicrhau ein bod yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal ac yn parchu hawliau siaradwyr Cymraeg.
Rydym yn falch o’n hetifeddiaeth a’n diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg yn Wrecsam. Rydym yn credu bod parchu a bodloni dewisiadau iaith ein cwsmeriaid yn ganolog i ofal cwsmer da ac effeithiol. Rydym yn darparu gwasanaethau i’r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau ac mae sicrhau y gall unigolion gael mynediad at wasanaethau yn eu hiaith gyntaf yn arbennig o bwysig.
Rydym wedi gwneud cynnydd da wrth gydymffurfio â’r Safonau a hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn Wrecsam. Mae meysydd i’w gwella o hyd, yn enwedig o ran recriwtio a datblygu’r gweithlu a bydd gwaith yn y maes hwn yn parhau yn 2023/24. Rydym wedi cryfhau’r cysylltiadau rhwng yr Iaith Gymraeg a Chynllun y Cyngor ac rydym yn parhau i sicrhau y caiff y Gymraeg ei phrif ffrydio yn ein holl flaenoriaethau a’n polisïau.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cael llai o gwynion trwy Gomisiynydd y Gymraeg, sy’n dangos ein bod bellach yn hunan-reoleiddio’n well ond hefyd yn ceisio darparu mwy o wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
O ganlyniad i gydweithrediad rhwng Cyngor Wrecsam, yr Urdd a Freedom Leisure, rydym bellach yn darparu gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Urdd a Freedom Leisure i ehangu’r ddarpariaeth hon ar draws cyfleusterau hamdden eraill. Rydym hefyd yn parhau wedi ymrwymo i recriwtio unigolion allai roi gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar hyn ar y gwefan
Rydym yn edrych ymlaen yn awyddus at weld yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Wrecsam ym mis Awst y flwyddyn nesaf. Yn ystod y camau cynllunio a’r digwyddiad wythnos o hyd, rydym yn disgwyl i’r dathliad hwn o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg roi hwb gwirioneddol i’r Gymraeg a Chymreictod yn yr ardal. Rydym yn annog pawb i gymryd rhan! Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan yr Eisteddfod.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Cefnogwr y Gymraeg, Cyngor Wrecsam: “Mae Cymraeg ar gyfer pob un ohonom, a’r peth gorau yw nad ydym angen gwybod llawer i ddefnyddio mwy arni yn ein bywydau bob dydd. Drwy wneud pethau mor syml â newid ‘good morning’ i ‘bore da’ neu ‘thank you’ i ‘diolch’ gallwn gynyddu ein defnydd dyddiol o’r Gymraeg ac wrth wneud hynny annog eraill i ymuno hefyd.
“Rwy’n hapus i weld fod ein hadroddiad yn dangos sut rydym wedi gwneud cynnydd ac rwy’n edrych ymlaen at y gwaith y byddwn yn ei wneud y flwyddyn nesaf i hybu’r Gymraeg a’r Eisteddfod Genedlaethol yn cyrraedd Wrecsam.”
*Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer fy niweddariadau a chofrestru ar gyfer ein gwasanaeth diweddariadau drwy e-bost am ddim, sy’n cynnwys amrywiaeth o wasanaethau’r cyngor yn eich dewis iaith.
*Gallwch weld ein hadroddiad blynyddol ar yr iaith Gymraeg ar ein gwefan