Os ydych wedi eich asesu fel unigolyn sydd angen cymorth gyda bywyd o ddydd i ddydd gan weithiwr cymdeithasol, a oeddech chi’n gwybod y gallwch roi eich cefnogaeth eich hun mewn grym i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw?
Gyda Thaliadau Uniongyrchol, yn hytrach na derbyn gofal gan wasanaethau cymdeithasol, fe roddir yr arian i chi i drefnu gwasanaethau eich hun.
Gall hyn roi fwy o reolaeth i chi o ran pwy fydd yn eich helpu a sut y byddant yn gwneud hynny. Er enghraifft, fe allech recriwtio eich cynorthwyydd personol neu eich gofalwr eich hun a phenderfynu pa oriau y byddant yn ymweld â chi.
Er bod y cynllun wedi bod yn weithredol ers amser hir, mae gan Gyngor Wrecsam dîm mewnol ymroddedig bellach i’ch helpu chi i ddysgu am Daliadau Uniongyrchol ac ymgeisio amdanynt.
Cewch fwy o wybodaeth ar wefan y cyngor.
Cysylltwch
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol Oedolion Cyngor Wrecsam:
“Mae ein tîm newydd yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn Taliadau Uniongyrchol.
“Fe all y cynllun fod yn ddewis da i nifer o bobl – mae’n rhoi rheolaeth i chi ac yn eich galluogi chi i wneud trefniadau sy’n addas i’ch anghenion ac yn cyd-fynd â’ch ffordd o fyw.
“Fe all swnio’n gymhleth, ond nid yw’n gymhleth mewn gwirionedd – fe all ein tîm ddarparu’r holl gymorth a chefnogaeth yr ydych ei angen. Felly os ydych eisiau gwybod mwy, cysylltwch â ni.”
EWCH I DDARGANFOD MWY