Wyddoch chi y gallwch fynd i gyngerdd yn rhad ac am ddim bob dydd Iau rhwng 1pm a 2pm yn Nhŷ Pawb?
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB
Mae’r cyngherddau cerddoriaeth fyw’n boblogaidd dros ben, ac yn amlach na pheidio mae’r lle dan ei sang – ac mae’n hawdd deall pam wrth weld pwy sy’n perfformio. Mae’r cyngherddau’n hybu doniau lleol mewn pob math o gerddoriaeth.
Gall hynny gynnwys caneuon o ffilmiau a sioeau cerdd, cerddoriaeth glasurol boblogaidd, canu gwerin, jazz a rhythm a blŵs.
Mae mynediad yn rhad ac am ddim ond croesewir rhoddion i fynd at gyngherddau cyffrous eraill yn Nhŷ Pawb.
Does dim angen cadw tocyn ymlaen llaw, dim ond bwrw golwg ar y rhestr isod a dod o hyd i gyngerdd sydd at eich dant, a gwneud eich ffordd i Dŷ Pawb.
Cyngherddau Byw Gwanwyn a Haf
- Mai 2 Henry Soper, Piano a Sacsoffon
- Mai 9 David Jones, Piano – Schumann, Godowsky, Rachmaninoff a Liszt
- Mai 16 Achille Jones, gitâr glasurol, gyda Sophie Darling yn westai
- Mai 23 Vera Van Heeringen, Llais a Gitâr
- Mai 30 Shonagh Douglas, Pibgodau
- Mehefin 6 Nick Malings, Piano
- Mehefin 13 Brian a Jeremy Healt, Deuawd Piano – Mozart, Poulenc, Debussy
- Mehefin 20 Rachel Marsh a Chyfeillion, Llais gyda Daniel Bradford ar y Piano – caneuon yn cynnwys “Summertime”
- Mehefin 27 Max Hixon, Llais a Gitâr
- Gorffennaf 4 Corau Gwadd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, gwledd o ganu corawl ac offerynnol
- Gorffennaf 11 Caroline Morris a Chyfeillion, Piano a Chwythbren
- Gorffennaf 18 Anthony Mitchell, Gitâr Glasurol
- Gorffennaf 25 Elias Ackerley a Chyfeillion, Offerynnol
- July 25 Elias Ackerley and Friends, Instrumental
Meddai Derek Jones, Cadeirydd y Bwrdd Cynghori a threfnydd y Cyngherddau: “Rydym wrth ein boddau â’r ymateb y mae’r perfformwyr wedi’i gael ar ddydd Iau, ac mae’n wych fod y lle’n llawn dop yn aml iawn. Rydym yn ceisio cynnig rhywbeth at ddant pawb felly dewch, da chi!”
Fe gewch chi ragflas o’r arlwy drwy glicio ar y ddolen isod:
Cefnogir y Sioeau Cerddoriaeth Fyw yn Nhŷ Pawb gan Gerddorfa Symffoni Wrecsam, Calon FM, y Lle Cerdd a masnachwyr Tŷ Pawb. 🙂
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB