Wyddoch chi y gallwch fynd i gyngerdd yn rhad ac am ddim bob dydd Iau rhwng 1pm a 2pm yn Nhŷ Pawb?

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

Mae’r cyngherddau cerddoriaeth fyw’n boblogaidd dros ben, ac yn amlach na pheidio mae’r lle dan ei sang – ac mae’n hawdd deall pam wrth weld pwy sy’n perfformio. Mae’r cyngherddau’n hybu doniau lleol mewn pob math o gerddoriaeth.

Gall hynny gynnwys caneuon o ffilmiau a sioeau cerdd, cerddoriaeth glasurol boblogaidd, canu gwerin, jazz a rhythm a blŵs.

Mae mynediad yn rhad ac am ddim ond croesewir rhoddion i fynd at gyngherddau cyffrous eraill yn Nhŷ Pawb.

Does dim angen cadw tocyn ymlaen llaw, dim ond bwrw golwg ar y rhestr isod a dod o hyd i gyngerdd sydd at eich dant, a gwneud eich ffordd i Dŷ Pawb.

Cyngherddau Byw Gwanwyn a Haf

  • Mai 2  Henry Soper, Piano a Sacsoffon
  • Mai 9  David Jones, Piano – Schumann, Godowsky, Rachmaninoff a Liszt
  • Mai 16  Achille Jones, gitâr glasurol, gyda Sophie Darling yn westai
  • Mai 23  Vera Van Heeringen, Llais a Gitâr
  • Mai 30  Shonagh Douglas, Pibgodau
  • Mehefin 6  Nick Malings, Piano
  • Mehefin 13  Brian a Jeremy Healt, Deuawd Piano – Mozart, Poulenc, Debussy
  • Mehefin 20  Rachel Marsh a Chyfeillion, Llais gyda Daniel Bradford ar y Piano – caneuon yn cynnwys “Summertime
  • Mehefin 27  Max Hixon, Llais a Gitâr
  • Gorffennaf 4  Corau Gwadd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, gwledd o ganu corawl ac offerynnol
  • Gorffennaf 11 Caroline Morris a Chyfeillion, Piano a Chwythbren
  • Gorffennaf 18  Anthony Mitchell, Gitâr Glasurol
  • Gorffennaf 25  Elias Ackerley a Chyfeillion, Offerynnol
  • July 25  Elias Ackerley and Friends, Instrumental

Meddai Derek Jones, Cadeirydd y Bwrdd Cynghori a threfnydd y Cyngherddau: “Rydym wrth ein boddau â’r ymateb y mae’r perfformwyr wedi’i gael ar ddydd Iau, ac mae’n wych fod y lle’n llawn dop yn aml iawn. Rydym yn ceisio cynnig rhywbeth at ddant pawb felly dewch, da chi!”

Fe gewch chi ragflas o’r arlwy drwy glicio ar y ddolen isod:

Cefnogir y Sioeau Cerddoriaeth Fyw yn Nhŷ Pawb gan Gerddorfa Symffoni Wrecsam, Calon FM, y Lle Cerdd a masnachwyr Tŷ Pawb. 🙂

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB