Bu i ddau uwch swyddog y cyngor fynd i’r afael ag ailgylchu gwastraff drwy ymuno ag un o’r criwiau ar eu rownd.
Ymunodd y Cynghorydd David A Bithel, Aelod Arweiniol Amgylchedd a Thrafnidiaeth a Darren Williams, Rheolwr Gwasanaeth yr Amgylchedd, â’r criw casglu gwastraff yn ystod eu rownd dydd Llun, gan fynd o amgylch ardal Cefn Mawr.
Cafodd y ddau gyfle i wagio bocsys troli gwag o nifer o eiddo yn ystod rownd y bore, a gweld y gwaith a gyflawnir gan y timau.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Bu iddynt ymuno â’r criwiau i fynd â’r bocsys o ymyl y palmant i’r cerbydau casglu a threfnu’r gwastraff ailgylchu.
Dywedodd y Cynghorydd Bithell: “Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i fynd gyda’r criwiau casglu – mae’n bwysig fy mod yn cael cyfle i weld eu gwaith a chael syniad o’r hyn y maent yn gorfod ymdrin â hwy.
“Mae’r timau yn gwneud gwaith da, sy’n waith caled iawn i fod yn deg, ac roeddwn yn falch o gael y cyfle i fynd gyda’r tîm a gweld beth maent yn ei wneud o lygad y ffynnon.
“Byddwn yn annog pobl i beidio â chymysgu eu heitemau ailgylchu mewn gwahanol focsys a gwneud yn siŵr eu bod yn rhoi’r eitemau cywir ym mhob cynhwysydd. Y ffordd hon mae’n osgoi casgliadau a fethir ac yn helpu ein targedau ailgylchu.
“Er y gall fod yn gamgymeriad hawdd i’w wneud, os oes rhaid iddynt gywiro hyn i nifer o aelwydydd, mae trefnu eitemau sydd wedi’u rhoi yn anghywir yn gallu ychwanegu at lwythi gwaith mawr i’r rowndiau – ac mae hynny yn rhywbeth yr ydym eisiau ei osgoi pan fyddwn yn cyrraedd pob aelwyd mewn amser da a sicrhau bod sbwriel pawb wedi cael eu casglu.
“Byddwn hefyd yn annog aelodau o’r cyhoedd i ailgylchu eu gwastraff bwyd diangen i’r bocsys llwyd llai – roedd yn ymddangos nad oedd llawer o bobl yn eu defnyddio, ac mae’n un o’r pethau hawsaf i’w ailgylchu.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell: “Ni fyddem ble’r ydym o ran ffigurau ailgylchu heb gydweithrediad y cyhoedd, ac rwy’n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth – a hoffwn ddiolch i’n criwiau am eu gwaith caled, sydd hefyd yn rhan hanfodol i ni gyrraedd ein targedau ailgylchu.
“Maent yn gweithio’n galed, a gobeithio eu bod yn deall yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni.”
I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i’n gwefan (DOLEN YMA))
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU