Grant yw hwn i ddarparu cymorth ariannol i fusnesau sydd newydd eu creu sy’n wynebu heriau gweithredol ac ariannol o ganlyniad i’r argyfwng COVID-19.
Diben y grant yw cefnogi busnesau newydd gyda chymorth llif arian ar unwaith i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd COVID-19. Mae’r grant yn ceisio ategu mesurau eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru mewn ymateb i COVID-19.
Mae’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y grant fel a ganlyn:
- Wedi dechrau masnachu rhwng 1 Ebrill 2019 ac 1 Mawrth 2020
- Trosiant blynyddol / rhagweladwy yn debygol o fod yn llai na £50,000
- Heb fod yn derbyn Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig, y Grant Ardrethi Annomestig, y Gronfa Cadernid Economaidd
- Rhaid i fusnesau fod yn gweithredu yng Nghymru
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr CThEM
- Gohebiaeth ysgrifenedig yn cadarnhau ei fod wedi cofrestru gyda CThEM
- Wedi profi gostyngiad o fwy na 50% mewn trosiant o ganlyniad i’r achosion o COVID-19 rhwng Ebrill a Mehefin 2020
I gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn, darllenwch Ganllawiau’r Grant Cychwyn Busnes – bydd hyn yn sicrhau eich bod yn darparu’r wybodaeth a’r dystiolaeth gywir wrth gyflwyno eich cais.
Os ydych chi wedi darllen y canllawiau a’ch bod yn gymwys am y grant ac eisiau gwneud cais, lawrlwythwch y ffurflen gais a chwblhewch y cwestiynau gorfodol gan ddilyn canllawiau a ddarperir a’i dychwelyd mewn e-bost i business@wrexham.gov.uk
Bydd y Grant i Fusnesau Newydd yn agor ar 29 Mehefin 2020 ac yn parhau nes bod yr holl gronfa wedi cael ei defnyddio. Mae 2,000 o grantiau ar gael ledled Cymru, a bydd ceisiadau’n derbyn sylw ar sail y cyntaf i’r felin. Mae’n bosibl y bydd hyn yn golygu na fydd rhai ceisiadau sydd wedi eu cyflwyno’n cael eu gwerthuso, os yw’r holl gronfa wedi cael ei defnyddio.
Darllenwch ganllawiau’r grant cychwyn busnes
Grant Cychwyn Busnes – Ffurflen Gais Fformat
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN