Mae siop arall yng nghanol dinas Wrecsam wedi cau am werthu fêps a thybaco anghyfreithlon.
King Mini Market, 7 Heol y Drindod, gerllaw’r orsaf fysiau yng nghanol y ddinas yw’r siop ddiweddaraf i gael ei chau trwy orchymyn y llys yn dilyn achos gan Safonau Masnach. Cyflwynwyd tystiolaeth o hanes o atafaelu a gwerthu fêps maint mawr, cryfder uwch yn ogystal â sigaréts anghyfreithlon i’r llys. Ni chynigiodd cyfreithwyr a oedd yn gweithio ar ran y busnes unrhyw amddiffyniad ac ni ddaethant i’r gwrandawiad yn Llys Wrecsam ddydd Iau 20 Mawrth. Bydd y siop yn aros ar gau am y 3 mis nesaf.
Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o orchmynion cau a gafwyd gan Wasanaeth Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Wrecsam. Mae’r safleoedd i gyd wedi cael eu cau am werthu fêps anghyfreithlon, tybaco anghyfreithlon neu’r ddau.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Ddiogelu’r Cyhoedd, “mae’n bwysig iawn bod y Cyngor yn cymryd camau i ddiogelu ein cymuned. Mae fêps a thybaco anghyfreithlon yn bygwth iechyd ein plant ac yn dod â throsedd i’n cymunedau. Mae gorchmynion cau wedi profi’n ffordd hynod effeithiol o darfu ar gyflenwad anghyfreithlon a chynyddu costau i’r busnesau sy’n cymryd rhan mewn gwerthu cynnyrch anghyfreithlon.”
“Mae dros 5000 o bobl yng Nghymru yn marw bob blwyddyn o glefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu sy’n lladd 1 o bob 2 o’r holl ddefnyddwyr hirdymor. Mae mynediad hawdd at dybaco rhad yn cynyddu’r siawns y bydd plant yn datblygu caethiwed gydol oes i’r cynnyrch hynod gaethiwus hwn. Mae fêps anghyfreithlon yn cynnwys llawer mwy o nicotin na’r lefelau a ganiateir ac yn peri risg debyg o gaethiwed gydol oes. Mae fêps tafladwy yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd gyda miliynau’n cael eu taflu bob blwyddyn yng Nghymru. Mae pob fêp sy’n cael ei daflu yn cynnwys plastig, cydrannau electronig, batri a hylif gweddilliol. Nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hailgylchu ac mae’r batris yn achosi tanau mewn cyfleusterau ailgylchu gwastraff.”
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n poeni am eu cymuned ac iechyd eu plant i rannu unrhyw wybodaeth sydd ganddynt sy’n ymwneud â thybaco neu fêps anghyfreithlon.”
Gellir rhannu’r wybodaeth yma’n ddienw – ar-lein yn https://noifs-nobutts.co.uk/ neu dros y ffôn ar 029 2049 0621.