Cynhaliwyd y Brecwast Busnes Rhwydwaith Arloesi Cynghrair Merswy a Dyfrdwy 2019 yn Nhŷ Pawb dydd Gwener, 15 Chwefror.
Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i fusnesau sy’n gweithredu yn ardaloedd Wrecsam, Sir y Fflint, Gorllewin Swydd Caer a’r Wirral i rwydweithio. Hefyd roedd gan y rhai hynny a oedd yn bresennol gyfle i ddysgu mwy am dwf ac arloesi busnes.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Gweithdai AM DDIM…
Bu i Fanc Datblygu Cymru noddi’r digwyddiad a gynhaliwyd yn Nhŷ Pawb. Bu i Mike Owen, Cyfarwyddwr Buddsoddi Grŵp yn Banc Datblygu Cymru a Gary Guest, Rheolwr Cyllid yn FW Capital gynnal gweithdy am ddim yn y digwyddiad yn ogystal â siarad â’r cyfranogwyr.
Roedd aelodau eraill o Fanc Datblygu Cymru yn y digwyddiad hefyd i drafod gwahanol fathau o gyllid sydd ar gael i fusnesau i’w helpu i ddechrau neu i dyfu.
20+ o Arddangoswyr
Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys taith o amgylch Tŷ Pawb, cyflwyniadau cryno 2 funud, 20+ o arddangoswyr yn ogystal â gweithdy gan Fanc Datblygu Cymru!
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Economi; “Mae’n ddigwyddiad gwych i fusnesau lleol i wneud cysylltiadau newydd a dysgu am gyfleoedd a chyllid a all fod ar gael i fusnesau yn yr ardal. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant gyda dros ?? o fusnesau yn bresennol ac rwy’n siŵr bod pawb a ddaeth wedi cael gwybodaeth, cysylltiadau a chyngor defnyddiol.”
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU