Mae cynllun bywyd nos Wrecsam, a ddyluniwyd i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel – a dathlu rhagoriaeth yn y diwydiant – wedi ennill gwobr genedlaethol.
Cafodd Braf Bob Nos Wrecsam ei enwi fel cynllun mwyaf arloesol 2018 yng Ngwobrau Cenedlaethol Braf Bob Nos, a gynhaliwyd yn Nhŷ’r Arglwyddi yn gynharach yr wythnos hon.
Felly beth yw’r cynllun?
Mae Braf Bob Nos yn gynllun cenedlaethol a gefnogir gan y Swyddfa Gartref a’r diwydiant diodydd.
Ei brif nod yw hyrwyddo rheolaeth gyfrifol o glybiau nos, tafarndai a safleoedd alcohol trwyddedig eraill – er mwyn helpu i gadw trefi a dinasoedd yn ddiogel ar gyfer staff a phobl sy’n mwynhau noson allan.
Mae wedi cael ei fabwysiadu gan 75 o drefi a dinasoedd ar draws y DU, ac yn cael ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill erbyn hyn.
Y nod yw lleihau trosedd ac anrhefn sy’n gysylltiedig ag alcohol drwy adeiladu cysylltiadau cryfach rhwng masnachwyr trwyddedig, yr heddlu a chynghorau lleol – fel y gallent rannu gwybodaeth, syniadau ac arferion da.
Rhaid i fusnesau fodloni safonau er mwyn cael eu cydnabod gan y cynllun, gan gynnwys ‘archwiliad manwl o dros 120 o feini prawf – yn cynnwys popeth o reolaeth gyfrifol i ofal cwsmeriaid.
Yn Wrecsam rydym yn dathlu cyraeddiadau safleoedd lleol mewn noson wobrwyo bob hydref.
Beth sydd mor arloesol am gynllun Wrecsam?
Mae gwobr y ‘Cynllun Mwyaf Arloesol’ yn cael ei roi i’r prosiect sydd â’r dull fwyaf creadigol o wneud gwahaniaeth yn eu hardal leol.
Roedd chwe chynllun arall ar y rhestr fer yng Nghymru a Lloegr, a Wrecsam ddaeth i’r brig oherwydd yr ystod eang o fentrau i wella diogelwch – gan gynnwys hyfforddiant ar ymwybyddiaeth ar gyfer deiliaid trwyddedau a staff ar y drysau ar ddod o hyd i gwsmeriaid a allai fod yn agored i niwed a’u helpu, a dulliau gwrthderfysgaeth.
Rhoddodd y beirniaid ganmoliaeth benodol i Wrecsam am y bartneriaeth gryf rhwng y Cyngor, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru, deiliaid trwyddedau a staff diogelwch – pawb yn cydweithio i sicrhau diogelwch gydag ychydig iawn o adnoddau.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard; “Braf iawn yw gweld o’r 75 tref a dinas yn y DU sydd wedi mabwysiadu’r cynllun Braf Bob Nos, bod tref Wrecsam wedi’i chydnabod fel y dref â’r “Cynllun Mwyaf Arloesol Braf Bob Nos 2018.
“Mae hyn yn newyddion gwych i ni. Mae’n tynnu sylw at y gwaith caled, yr ymroddiad a’r gefnogaeth ar draws ein heconomi min nos gan bartneriaid i sicrhau bod Wrecsam yn lle diogel i bobl sydd eisiau mwynhau noson allan. Diolch yn fawr iawn i bob aelod o staff sydd yn rhan o’r cynllun.”
Dywedodd Prif Arolygydd Mark Williams: “ Rwyf yn hynod falch o glywed bod Cynllun Braf Bob Nos Wrecsam wedi cael cydnabyddiaeth am ei ddull arloesol o weithio. Mae’r bartneriaeth rhwng yr awdurdodau trwyddedu, y gwasanaethau brys a’r trwyddedwyr yn Wrecsam wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd. Mae canol tref diogel a chroesawgar o fudd i bawb a byddem yn parhau i gydweithio i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hamcanion.”
Os ydych chi’n rhedeg safle trwyddedig ac eisiau gwybod mwy am y cynllun Braf Bob Nos Wrecsam , cysylltwch â communitysafety@wrexham.gov.uk
Siaradwr Cymraeg? Helpwch ni i wella ein gwasanaethau Cymraeg.
CWBLHEWCH EIN HYMGYNGHORIAD RŴAN