Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru
Pobl a lleY cyngor

Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 3, 2025 1:38 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Dementia
RHANNU

Mae’r daith i greu cymunedau sy’n deall dementia ledled Gogledd Cymru wedi dechrau ers tro. Mae’r Mae Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia yn ymwneud â helpu i ddatblygu cymunedau sy’n dosturiol, yn gynhwysol ac yn gydnerth i bobl sy’n byw gyda dementia, a hefyd i gynorthwyo eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u gofalwyr di-dâl i gynnal cysylltiadau, a byw yn dda yn eu hardaloedd lleol. Lansiodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Gogledd Cymru Gynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru ar 1 Ionawr 2024. Mae’r fenter hon yn adeiladu ar waith gwerthfawr Cymdeithas Alzheimer, y mae ei chynllun bellach wedi dod i ben, ac mae’n golygu cydweithio â chwe chyngor lleol, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, busnesau lleol, ac elusennau.

Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC) wedi gwneud cyfraniad allweddol at ddatblygiad y cynllun, gan rannu arbenigedd o’u prosiect Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia i gynorthwyo cynghorau eraill a hyrwyddo’r fenter ar draws y rhanbarth. Dywedodd Rebecca Bowcot, Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia, DVSC:

“Mae codi ymwybyddiaeth o ddementia ledled Sir Ddinbych wedi bod yn ffordd wych o rymuso unigolion a chymunedau i weithredu er mwyn helpu pobl y mae dementia yn effeithio arnynt yn eu cymunedau lleol. Mae’n hynod werth chweil gweld pobl yn dod at ei gilydd i gyflawni eu nodau unigol yn ymwneud â dymuno cynorthwyo pobl fel y gall pawb barhau i gael eu cynnwys a chyfrannu’n weithredol at fywyd eu cymuned. Rydym yn cynnal cyfarfodydd Rhwydwaith Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia bob yn ail fis ac mae hynny’n galluogi cymunedau sy’n deall dementia i ddod at ei gilydd i rannu syniadau a

chynorthwyo ei gilydd i alluogi eu cymunedau sy’n deall dementia i ddatblygu a ffynnu.”

Dywedodd Dilwyn Jones, Cadeirydd Dinbych sy’n Deall Dementia: “Roedd yn anrhydedd i mi ddod yn Gadeirydd Dinbych sy’n Deall Dementia a bod yn rhan o’r broses o godi ymwybyddiaeth yn lleol, trwy sesiwn wybodaeth. Rydym wedi gallu rhoddi eitemau megis teclynnau Alexa a chathod a chŵn robotig i helpu’r sawl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.”

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae hwn yn gynllun pwysig iawn i’r rhai sy’n byw gyda dementia. Rwy’n falch bod Cyngor Wrecsam yn cael ei gydnabod fel awdurdod sy’n deall dementia ac mae’r fwrdeistref sirol yn fan lle gall y rhai sy’n byw gyda dementia deimlo’n ddiogel.”

Dywedodd y Cynghorydd Frank Hemmings, sydd yn Gennad Dementia gyda’r Gymdeithas Alzheimer: “Rwy’n falch iawn o’r gwaith rydym yn ei wneud yn Cyfeillion Dementia Wrecsam, yn cynnig grwpiau celf wythnosol a sesiynau Canu i’r Ymennydd misol, sydd i gyd yn cael eu darparu gan wirfoddolwyr. Mae’r gweithgareddau hyn yn rhoi rhyddhad i’r rhai sy’n byw gyda’r clefyd a’u gofalwyr ac mae’n bleser bod yn rhan ohonynt. Mae’n bwysig ein bod yn creu dealltwriaeth ac yn gofalu am y rhai sydd wedi’u heffeithio ac yn rhoi cymorth lle gallwn ni.”

Gall cymunedau sy’n cyfranogi yn y cynllun gael cydnabyddiaeth am eu hymdrechion, a gallai hynny gynnwys:

  • Hyfforddiant ar gyfer staff mewn busnesau lleol
  • Arwyddion eglur a hawdd eu deall o amgylch y dref
  • Gweithgareddau deall dementia

Ar hyn o bryd, mae 12 cymuned yng Ngogledd Cymru yn cael eu cydnabod am eu cynnydd tuag at ddod yn gymunedau sy’n deall dementia, o Ynys Môn i Wrecsam. Rhagwelir y bydd 12 cymuned arall yn ystyried cyflwyno cais am achrediad statws cymuned sy’n deall dementia yn ystod 2025.

Ym mlwyddyn gyntaf y cynllun:

  • Cynorthwywyd dros 1,000 o bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr di-dâl trwy grwpiau dementia.
  • Mynychodd mwy na 150 o bobl sesiynau hyfforddiant ynghylch dementia.
  • Dywedodd dros 1,400 o bobl fod ganddynt wybodaeth well am wasanaethau dementia yn eu cymuned.

Dywedodd un unigolyn sy’n byw gyda dementia:

“Mae bod yn rhan o gymuned sy’n deall dementia yn helpu i sicrhau y caiff eich llais ei glywed. Mae hynny hefyd wedi helpu i hyrwyddo’r grŵp Precious Memories yn y Rhyl sy’n cynnal cyfarfodydd wythnosol ac sy’n ffynhonnell werthfawr o gymorth gan gymheiriaid i bobl”.

Mae hwn yn un o nifer o gynlluniau a gyflwynwyd gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (RPB) a’u partneriaid, sy’n gweithio i sicrhau bod cymunedau’n fwy cynhwysol a grymusol: https://www.cydweithredfagogleddcymru.cymru/bwrdd-partneriaeth-rhanbarthol-gogledd-cymru//

I gael rhagor o fanylion am Gynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru a sut i gyflwyno cais, trowch at: 👉 https://www.cydweithredfagogleddcymru.cymru/dementia/

Rhannu
Erthygl flaenorol holding s Ydych chi’n rhan o deulu sy’n cefnogi rhywun sy’n byw gydag anabledd dysgu?
Erthygl nesaf Lluniau - Dydd Gŵyl Dewi 2025 Lluniau – Dydd Gŵyl Dewi 2025

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English