Yn dilyn penderfyniad mewn cyfarfod ar 22 Tachwedd 2018, mae’r Cyngor wedi cyflwyno ei Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) i Lywodraeth Cymru ar gyfer Archwiliad Cyhoeddus.
Cyn y gellir cynnal yr Archwiliad, rydym yn rhoi cyfle i chi wneud sylwadau ar y “Newidiadau Penodol” – newidiadau y dymunwn eu gwneud yn dilyn yr ymatebion i’r ymgynghoriad a dderbyniwyd y flwyddyn ddiwethaf.
Bydd y newidiadau hyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol 6 wythnos rhwng Dydd Llun 7 Ionawr a 5pm Dydd Llun 18 Chwefror 2019. Yn bwysig, dylai’r sylwadau a wneir yn y cam hwn ymwneud â’r Newidiadau Penodol yn unig a dylent fynegi yn glir eu cefnogaeth neu wrthwynebiad. Ni ddylai’r sylwadau gynnig newidiadau pellach. Nid oes angen ailgyflwyno unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yng Nghyfnod yr Archwilio gan y Cyhoedd.
Gallwch gymryd rhan Yma
Yna, caiff yr Archwiliad ei gynnal gan arolygydd annibynnol a fydd yn penderfynu os yw’r Cynllun yn ‘gadarn’.
Bydd yr Arolygydd yn asesu cadernid y Cynllun yn ei gyfanrwydd, yn hytrach nac ystyried gwrthwynebiadau unigol, a bydd hi’n selio ei dyfarniad ar y dystiolaeth sydd ar gael, y sylwadau a wnaed ac amgylchiadau penodol y Cynllun a’r ardal.
Gallwch weld y Dogfennau Cyflwyno yma.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR