Rydym wedi helpu dros 1,800 o fusnesau a masnachwyr unigolyn yn y fwrdeistref sirol drwy ddarparu £22m mewn grantiau busnes ers y cyfyngiadau ar symud ddechrau.
Mae hyn yn cynnwys elusennau a chlybiau chwaraeon cymunedol yn dilyn rheolau cymhwyster diwygiedig diweddar. Fodd bynnag, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fydd y cynllun grantiau yn derbyn ceisiadau ar ôl 30 Mehefin 2020.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Os oes unrhyw fusnesau sydd heb gael y grant busnes na chyllid o’r Gronfa Cadernid Economaidd, yna dylent fynd ar ein gwefan a gweld os ydynt yn gymwys ac yna gwneud cais. Bydd yr holl wybodaeth berthnasol ar ein gwefan, gan gynnwys y meini prawf diwygiedig ar gyfer elusennau bach a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol.
Rydym yn gofyn yn arbennig i berchnogion siopau, swyddfeydd, siopau trin gwallt, garejis a gorsafoedd petrol, ac adeiladau a chanolfannau cymunedol nad ydynt yn eiddo i’r cyngor i ystyried gwneud hawliad.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch y ddolen isod:
https://www.wrecsam.gov.uk/service/covid-19-cefnogaeth-i-fusnesau
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19