Bydd gwariant newydd ar brosiectau yng Nghanol Tref Wrecsam ac ar draws y Fwrdeistref Sirol yn cael ei amlinellu a’i benderfynu arno gan Gyngor Wrecsam yr wythnos nesaf.
Roedd cyfanswm gwariant cyfalaf y Cyngor ar gyfer 2016/17 yn cynnwys ystod o brosiectau o Ysgolion i ffyrdd.
Bydd Aelodau o’r Bwrdd Gweithredol yn edrych ar ddyrannu rhywfaint o danwariant cronfeydd wrth gefn i amrywiaeth eang o brosiectau – gan gynnwys prynu goleuadau Nadolig newydd ar gyfer canol tref Wrecsam, a buddsoddiad mewn gwelliannau canol tref fel pedwar camera Teledu Cylch Caeedig.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
“…reolaeth ariannol ofalus…”
Dywedodd y Cynghorydd Pritchard, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad a Llywodraethu: “Diolch i reolaeth ariannol ofalus a gostyngiad yng nghostau rhai prosiectau cyfalaf, mae gennym ni fel Cyngor gronfeydd wrth gefn pellach i’w buddsoddi ar welliannau yn y Fwrdeistref Sirol.
“Mae fy nghydweithwyr ar y Bwrdd Gweithredol a minnau, mewn ymgynghoriad â swyddogion, wedi amlinellu’r meysydd hynny rydym ni’n teimlo a fyddai’n elwa o fuddsoddiad bellach, a fydd yn cynnwys gwelliannau a gynlluniwyd i ganol y dref.
“…annog mwy o bobl i siopa yn y dref…”
Ychwanegodd y Cyng Pritchard: “Rydym yn bwriadu cynnal gwaith fesul cam yng nghanol y dref er mwyn parhau i wella’r amgylchedd er mwyn annog mwy o bobl i siopa yn y Dref. Y cynllun i ddechrau yw canolbwyntio ar un stryd a hoffem rannu ein cynlluniau gyda busnesau lleol i dderbyn adborth a rhoi cyfle i gyflwyno syniadau.
“Mae’r terfynau amser ar gyfer y gwaith yn dal i’w penderfynu ond y bwriad yw cwblhau’r gwaith yn ystod y flwyddyn ariannol hon.”
“Rydym yn gwybod fod llawer o waith da yn mynd yn ei flaen yng nghanol tref Wrecsam, a hoffem wneud cymaint ag y gallwn ni fel cyngor i gefnogi ei adfywiad parhaus, yn unol â’r amcanion a amlinellwyd ym Mhrif Gynllun Canol y Dref.”
Nodir y gwariant yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2016/17 hyd at 2020/21 (dolen gyswllt i ddogfen Saesneg) a fydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ddydd Mawrth, 11 Gorffennaf.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI