O ddydd Llun, cyflwynir cynllun i godi tâl o £1 i barcio yn nhri o’n parciau gweledig, Tŷ Mawr, Melin y Nant a Dyfroedd Alun. Ni fydd rhaid i ddeiliaid bathodyn glas orfod talu yn y parciau yma, ond gofynnir iddynt dalu os ydynt yn parcio yn unrhyw un o feysydd parcio’r cyngor yng nghanol tref Wrecsam a maes parcio gorsaf reilffordd Rhiwabon gydag awr ychwanegol yn cael ei ychwanegu ar ben yr amser y cafodd ei brynu.
Daw’r penderfyniad i gychwyn codi tâl yn dilyn ymgynghoriad ym mis Mawrth, a gallwch weld canlyniadau’r ymgynghoriad hwnnw yma
Bydd y tâl o £1 ddigon am ddiwrnod cyfan.
Bydd deiliaid bathodyn glas yn cael awr ychwanegol ar ben yr amser y gwnaethant brynu’r tocyn.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd Chludiant, “Mae hi’n gyfnod anodd iawn i awdurdodau lleol ac nid ar chwarae bach rydym wedi dod i’r penderfyniad hwn nac ychwaith heb ymgynghoriad llawn. Mae’r cynlluniau i godi tâl ar ddeiliaid bathodyn glas am barcio mewn parciau gwledig wedi cael ei gymryd allan o’r cynigion gwreiddiol. Bydd y ffioedd yn berthnasol o ddydd Llun a byddwn yn monitro a ydynt yn achosi anawsterau a phroblemau neu beidio i ddefnyddwyr a fydd yn gorfod talu i barcio.”
COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR