Mae’r erthygl hwn yn rhan o gyfres o erthyglau blog sy’n cael eu cyhoeddi’r wythnos hon i gefnogi Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd 2022.
Mae’r cynllun Lleoedd Diogel yn darparu sicrwydd i bobl sy’n teimlo’n ddiamddiffyn os ydynt yn mynd allan, gan eu cynorthwyo i fyw bywydau mwy annibynnol. Mae gwybod bod Lleoedd Diogel yn eu cymunedau sy’n cynnig cymorth os oes angen, yn cynorthwyo pobl i deimlo’n ddiogel ac yn fwy hyderus wrth fynd allan i’w cymunedau.
Sut mae’r cynllun yn gweithio?
Mae siopau, busnesau a sefydliadau lleol yn cofrestru i fod yn “Lle Diogel”. Bydd sticer yn cael ei osod ar ffenestr neu ddrws Lle Diogel, sy’n nodi bod cymorth ar gael yno.
Os ydych chi’n unigolyn sy’n teimlo’n ddiamddiffyn pan ydych yn mynd allan, gallwch gofrestru ar gyfer y cynllun a chael cerdyn Lleoedd Diogel i gario gyda chi. Bydd y cerdyn yn dangos manylion cyswllt rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt, fel y gall aelod o staff yn y Lle Diogel eu ffonio nhw os ydych angen cymorth.
Yn ogystal â ffonio’r unigolyn cyswllt ar eich cerdyn Lleoedd Diogel, gall aelodau o staff mewn Lle Diogel:
- ddod o hyd i rywle diogel i chi aros a’ch cysuro chi tan i’r sefyllfa gael ei ddatrys
- galw’r heddlu neu ambiwlans os yw’n argyfwng
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Dywedodd Alwyn Jones, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol “Lleoedd Diogel yw Cynllun Cenedlaethol y mae Wrecsam wedi cofrestru iddo ychydig o flynyddoedd yn ôl. Rydym yn ffodus iawn o gael nifer o Leoedd Diogel yn Wrecsam ac yn falch iawn mai ni yw’r sir gyntaf yng Nghymru i fabwysiadu’r cynllun. Gobeithiwn y bydd yn tyfu o nerth i nerth, gan roi cymorth hanfodol i’r rhai hynny sydd ei angen yn ein cymuned.”
Gwneud cais am gerdyn Lleoedd Diogel
Os ydych yn dymuno defnyddio cynllun Lleoedd Diogel, gallwch lenwi ffurflen gais. Byddwch angen darparu manylion personol, ynghyd ag enwau a rhifau ffôn hyd at dri unigolyn yr ydych yn ymddiried ynddynt (dyma’r unigolion y gellir eu ffonio os ydych angen cymorth – gall fod yn aelod o’r teulu, gofalwr neu ffrind).
Unwaith i chi anfon eich cais, bydd ein tîm Lleoedd Diogel Wrecsam yn egluro sut i ddefnyddio’r cynllun. Byddwch yn derbyn rhestr o Leoedd Diogel yn Wrecsam a’ch cerdyn Lleoedd Diogel gyda’ch rhifau cyswllt arno, er mwyn ei gario wrth fynd allan.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH