Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam
Arall

Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Awst 12, 2025 3:49 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Landlords
RHANNU

Mae Cynllun Prydlesu Cymru Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyflenwad o dai o safon ac yn sicrhau bod eiddo gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto ledled Cymru.

Mae Cynllun Lesio Cymru yn rhoi cyfle i landlordiaid a pherchnogion cartrefi gwag lesio eu heiddo i’r awdurdod lleol am rhwng 5 ac 20 mlynedd.

Mae’r cynllun yn helpu i fynd i’r afael â digartrefedd ac yn cefnogi pobl sy’n gadael llety dros dro.

Mae pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru bellach yn cymryd rhan yn y cynllun, gyda 430 o eiddo wedi’u cofrestru ledled Cymru ar hyn o bryd.

Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, â Wrecsam i weld drosti’i hun sut mae’r cynllun yn gwneud gwahaniaeth i berchnogion eiddo a meddianwyr yn yr ardal.

Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â’r landlordiaid Deri a Julie Rowlands, sydd â sawl eiddo wedi cofrestru a’r cynllun, gan sicrhau bod cartrefi a fyddai fel arall wedi aros yn wag yn cael eu defnyddio unwaith eto o fewn y gymuned.

Cyfarfu hefyd â thenant un o’u heiddo, Eddie Parsons, sydd bellach â chartref lle gall gynnal trefniadau gwarchodaeth a rennir ar gyfer ei blentyn.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: “Mae Wrecsam yn enghraifft ardderchog o sut mae Cynllun Prydlesu Llywodraeth Cymru nid yn unig yn darparu tai, ond hefyd sefydlogrwydd a’r cyfle i deuluoedd aros gyda’i gilydd. Dyma’n union yr oeddem yn gobeithio ei gyflawni pan wnaethom lansio’r rhaglen.

“Rydyn ni’n gwybod bod cartrefi gwag yn adnodd gwastraffus yn ein cymunedau ac mae’r cynllun hwn yn ffordd wych o gynyddu nifer y tai fforddiadwy, ac edrychaf ymlaen at weld hyd yn oed mwy o berchnogion eiddo a landlordiaid yn cofrestru cyn bo hir.”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros Dai a Newid Hinsawdd: “Mae’r cynllun prydlesu yn ffordd wych o ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd – gan roi hwb pwysig i gymunedau lleol, landlordiaid a thenantiaid.

“Mae’r cynllun yn cael effaith gadarnhaol yn Wrecsam ac mae’n enghraifft wych o sut mae cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i wella mynediad at gartrefi.”

Rhannu
Erthygl flaenorol ruthin road Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Erthygl nesaf Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English