Eleni mae’n 100 mlynedd ers sefydlu’r Llu Awyr Brenhinol – Llu Awyr annibynnol cyntaf y byd – ac rydym am nodi hyn gydag anrhydedd dinesig i RAF Cymru.
Os caiff y cynlluniau eu cymeradwyo gan gynghorwyr yn eu cyfarfod ar 23 Mai, caiff yr Anrhydedd Dinesig ei ddathlu gyda digwyddiad i’w gynnal naill ai ym mis Awst neu fis Medi.
Ni roddir manylion am y digwyddiad yn yr adroddiad ond byddem yn disgwyl gweld gorymdaith a chasgliad o bobl ar Lwyn Isaf, ar ôl gweld anrhydeddau blaenorol.
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Rwy’n obeithiol iawn y caiff y cynlluniau gymeradwyaeth a bydd gwaith ar fanylion y digwyddiad i nodi’r achlysur ar gael yn fuan wedyn.”
Pan rydym yn gwneud hyn?
Rydym yn gwneud hyn am ei bod am gydnabod y dynion a merched o’r fwrdeistref sirol sydd wedi gwasanaethu yn yr RAF ers ei sefydlu ac oherwydd y cysylltiadau hanesyddol i’r ardal.
Mae David Lord VC, DFC, a’i ddewrder wrth sicrhau bod cyflenwadau yn cael eu gollwng dros Arnhem tra roedd ei awyren wedi’i difrodi ac yn llosgi, yn cael ei gydnabod gan Gofeb yn y Neuadd Goffa yng nghanol y dref. Mae plac hefyd i nodi ymwneud Prif Farsial Yr Awyrlu, Syr Frederick Rosier, RCB, CBE, DSO, ym Mrwydr Prydain yng Nghampws Grove Park, Coleg Cambria.
A oedd gan yr RAF leoliad yn Wrecsam erioed?
Oedd – yn ystod 1917-20, roedd safle RAF ym Morras, a gelwir yr ardal hyd heddiw yn “Faes Awyr Borras”. Cafodd ei ddefnyddio gan Ysgolion Sgwadron Hyfforddiant Rhif 4 a 52 o’r Corfflu Hedfan Brenhinol ac ar ôl 1918 gan sgwadronau hyfforddiant yr RAF yn seiliedig yn RAF Shotwick.
Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, roedd gan Wrecsam 3 rhedfa laswelltog, a phob un tua 600 llath o hyd, ac fe’u defnyddiwyd fel llain lanio wrth gefn, gydag ymweliadau gan nifer o sgwadronau hyfforddiant fel Spitfires o RAF Ternhill gerllaw. Yna cafodd ei uwchraddio a gosodwyd rhedfeydd concrid a goleuadau. Ym 1914, cyrhaeddodd Sgwadron Rhif 96 yn Wrecsam gydag awyrennau Hawker Hurricanes a Boulton Paul Defiant.
Rhwng 1941 ac 1944, roedd Sgwadron Rhif 285 yn seiliedig yn Wrecsam ar gyfer ymarferion hyfforddiant ac fe’i defnyddiwyd gan Fyddin yr Unol Daleithiau hefyd i gefnogi eu hunedau gerllaw.
Roedd yn eithaf distaw tan 1962-92 pan adeiladwyd byncer niwclear caled ar y safle ar gyfer Number 17 Group Royal Observer corps Gogledd Cymru – roeddent yn gyfrifol am ddarparu larwm rhybuddio 4 munud i bobl leol yn ystod y Rhyfel Oer. Mae’n dal i fod ar y safle ond caiff ei ddefnyddio fel stiwdio recordio bellach.
COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR