Oes gennych chi hen gynfasau, llenni neu lieiniau bwrdd yn cuddio yn eich droriau a’ch cypyrddau?

Mae trefnwyr Diwrnod Chwarae eleni yn edrych am bethau y gall plant eu defnyddio i wneud cuddfannau – ac fe fyddant yn ddiolchgar am bob lliw a phatrwm.

Os oes gennych unrhyw beth a allai fod yn addas, gallwch eu cyfrannu yng Nghanolfan Rhagoriaeth Rhiwabon (Clwb Ieuenctid), Clwb Ieuenctid Fictoria (y Fic yng nghanol y dref) neu Wasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd Wrecsam (yn llyfrgell Wrecsam).

EWCH YN WYRDD – DEWISWCH FILIAU TRETH CYNGOR DI-BAPUR…

Cynhelir Diwrnod Chwarae eleni ddydd Mercher, 1 Awst, felly os oes gennych chi unrhyw beth y gellid ei ddefnyddio, dewch a nhw atom erbyn diwedd Gorffennaf – digon o amser i chi glirio’r cypyrddau yna!

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â mel.kearsely@wrexham.gov.uk am fanylion.

Cyflym, effeithlon ac yn dda am yr amgylchedd – dewiswch filiau Treth Cyngor di-bapur trwy FyNghyfrif

COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR