Mae menter treftadaeth miliynau o bunnoedd yn cyflymu ym Mrymbo – a bydd modd cyflymu diolch i gymorth gan Gyngor Wrecsam.
Mae Prosiect Treftadaeth Brymbo eisoes yn edrych ar 2017 brysur, gyda nifer o gynlluniau ar y gweill i ailddatblygu hanes ac asedau treftadaeth yn raddol ym Mrymbo, i’w droi’n safle o safon fyd-eang, gan fanteisio ar ei orffennol diwydiannol cyfoethog.
Mae gan y Prosiect nodau pellgyrhaeddol ar y gweill ar gyfer y pentref – gan gynnwys gwaith adfer ac ailddefnyddio cyn safle Haearn a Dur Brymbo, ac archwilio a chadw’r goedwig ffosilau gyfagos; safle o ddiddordeb daearegol mawr, gyda ffosilau’n dyddio’n ôl fwy na 300 o flynyddoedd.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Ym mis Chwefror eleni, cytunodd Bwrdd Gweithredol y cyngor i gefnogi cynigion yr Ymddiriedolaeth dros ddatblygiadau, gan hefyd ymrwymo cefnogaeth swyddogion y cyngor am y datblygiadau arfaethedig.
Ni chostiodd y penderfyniad unrhyw arian i’r cyngor, ond mae’n rhoi’r pwysau sydd ei angen ar y Prosiect i sicrhau ceisiadau am gyllid a grantiau gan gyrff mwy.
Yn fuan ar ôl cael cefnogaeth gan y cyngor, atynnodd y prosiect bron i £2 filiwn gan raglen ‘Create Your Space’ Y Gronfa Loteri Fawr, gan alluogi i’r prosiect gychwyn ar ei fenter ‘Roots to Shoots’, sy’n edrych ar ffyrdd o ddefnyddio cyn fannau agored diwydiannol ychwanegol yn y pentref a gerllaw.
Mae’r arian eisoes wedi helpu’r prosiect i sicrhau tair swydd newydd, gan benodi dau Swyddog Datblygu a Swyddog Cyllid ar gyfer ei gynlluniau ‘Roots to Shoots’.
“Gwerthfawrogol dros ben i Gyngor Wrecsam am ei gefnogaeth”
Meddai Gary Brown, Swyddog Treftadaeth y prosiect: “Rydym yn werthfawrogol dros ben am y gefnogaeth a gawsom gan Gyngor Wrecsam yn gynharach eleni, am iddo roi’r sêl bendith yr oedd ei angen arnom i fwrw ymlaen â chyllid ar raddfa fawr.
“Mae cefnogaeth y cyngor wedi ein helpu i reoli llif cyllidebau a dechrau arni gyda gwaith yn gynt.
“Mae gennym uchelgeisiau gwych ar gyfer Brymbo a’r ardal gyfagos – rydym am wneud popeth y gallwn i wneud y gorau o dreftadaeth gyfoethog yr ardal, a defnyddio hynny i gefnogi’r datblygiad parhaus.
“Rydym yn elwa’n fawr o atyniadau megis y goedwig ffosilau a’r gwaith Dur, ac rydym yn awyddus iawn i gyfuno’r ddau ased – i atgoffa pobl mai cynhanes daearegol Brymbo ydyw, fel y gwelir yn y goedwig ffosilau, ac a roddodd yr adnoddau angenrheidiol i’w helpu drwy’r Chwyldro Diwydiannol hyd heddiw.”
“Edrych ymlaen at wylio’r prosiect yn datblygu”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r gwaith y mae Prosiect Treftadaeth Brymbo wedi’i gynnal ers i ni ei gefnogi wedi bod yn galonogol iawn, a hoffwn longyfarch y prosiect am y gwaith y mae wedi’i wneud hyd yma.
“Maen nhw eisoes wedi gwneud llawer o waith da yn paratoi’r tir, a bydd hynny bendant o help iddyn nhw wrth i’r prosiect fynd rhagddo – yn enwedig wrth i fwy o gyllid ddod i mewn.
“Edrychaf ymlaen at wylio’r prosiect yn datblygu ac rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi’r gefnogaeth y rhoesom iddyn nhw.”
Meddai’r Cynghorydd Paul Rogers, aelod ward ar gyfer Brymbo: “Mae’r prosiect hwn wedi cyflymu’n dda ers peth amser, felly pleser ydyw ei weld o’r diwedd yn gallu datblygu’n dda tuag at yr hyn sy’n argoeli i fod yn welliannau anhygoel yma ym Mrymbo.
“Mae treftadaeth yr ardal wastad wedi bod yn ased cudd, felly mae’n wych gweld symudiadau ar waith a fydd yn helpu i ddod â hi’n fyw.”
Bydd Prosiect Treftadaeth Brymbo yn cynnal ei ddiwrnod agored nesaf ar ddydd Sadwrn, 29 Gorffennaf – yn cynnwys teithiau cerdded tywysedig o amgylch y goedwig ffosilau, teithiau treftadaeth ddiwydiannol, reidiau rheilffordd gul, sgyrsiau, arddangosfeydd ac eraill.
Mae sesiynau gwirfoddoli hefyd ar agor bob dydd Sul yn Siop y Peiriant ar gyn safle gwaith dur Brymbo, ar y Stryd Fawr Newydd, Brymbo, rhwng 10am a 1pm.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ystod o waith a gynhelir gan y Prosiect Treftadaeth, ewch i: http://www.brymboheritage.co.uk
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI