Food advice from Wrexham Council

Mae gwenwyn bwyd yn beth diflas dros ben.

Mae’r haf yn ei anterth ac wrth i ni gyd ddechrau tynnu ein barbiciws allan – mae’n bwysig cymryd gofal mawr â’n bwyd.

Mae’n ffaith fod achosion o wenwyn bwyd yn cynyddu yn ystod yr haf, a’r poethaf yw’r tywydd y mwyaf o bobl sy’n tueddu i fynd yn sâl.

Felly i’ch helpu i aros yn ddiogel, dyma bedwar cyngor syml i chi yn seiliedig ar gyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’r GIG…

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

1. Coginiwch eich bwyd trwodd

Coginiwch eich bwyd yn drylwyr – yn arbennig eich cig. Gofalwch ei fod yn chwilboeth y tu mewn a’i fod wedi coginio trwodd.

Gallai unrhyw gig pinc neu suddion fod yn lloches i germau a gallai fod yn docyn unffordd i ddiflastod gwenwyn bwyd. Ych a fi.

Yn y pen draw, mae germau’n cael eu lladd os yw’r bwyd wedi’i goginio’n iawn.

2. Cadwch fwydydd amrwd ar wahân i fwyd wedi’i goginio (dydyn nhw ddim yn hoffi ei gilydd)

Ychydig fisoedd yn ôl cafodd y gyflwynwraig Loose Women, Katie Price, ei beirniadu ar ôl rhoi llun o gynnwys ei hoergell ar Instagram.

Roedd y llun yn dangos cig heb ei goginio wrth ymyl caws… denodd hynny lawer o gyngor gan ddilynwyr pryderus. (LINK https://www.netmums.com/life/katie-price-sparks-controversy-with-picture-of-her-fridge)

Hyd yn oed os nad ydych yn rhoi lluniau o gynnwys eich oergell ar Instagram (pwy sydd ddim yn gwneud hynny!?), mae’n bwysig cadw bwyd heb ei goginio oddi wrth fwyd sy’n barod i’w fwyta (fel cynnyrch llaeth) i atal traws-heintio.

Mae’n syniad da gorchuddio cig amrwd bob amser a’i roi yng ngwaelod yr oergell.

Peidiwch â defnyddio’r un bwrdd torri neu gyllell i dorri bwyd amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta.

3. Cadwch eich bwyd ar y tymheredd cywir

Dylid cadw bwyd sydd angen bod yn oer yn yr oergell. Mae’n werth gwirio a yw’ch oergell yn rhedeg ar y tymheredd cywir hefyd (o dan 5C).

Os ydych yn mynd am bicnic neu’n mynd â phecyn cinio i rywle, dylech ei gadw yn yr oergell tan y funud olaf a defnyddio bag oer i gario’r bwyd pan fyddwch yn mynd allan.

4. Golchwch eich dwylo (er mwyn bod yn giamstar ar drin bwyd yn lân)

Yn olaf, ond nid y lleiaf, dylech gadw’ch dwylo’n lân bob amser… a’u golchi’n drylwyr cyn ac ar ôl trin bwyd.

Os ydych yn paratoi cig heb ei goginio, golchwch eich dwylo yn lân cyn i chi gyffwrdd ag unrhyw beth arall… neu fe allech chi ledaenu germau o’r cig sydd heb ei goginio.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol am Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau: “Mae gwenwyn bwyd yn brofiad diflas dros ben ac mae mor hawdd i’w osgoi.

“Trwy ddilyn ychydig o gamau syml yn y gegin, gallwch leihau’r perygl o wenwyn bwyd yr haf hwn.”

Am fwy o gyngor am ddiogelwch bwyd, edrychwch ar wefan y GIG.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

COFRESTRWCH FI