Bydd uwch aelodau Cyngor Wrecsam yn trafod cynigion ar gyfer “cais twf” ar draws y rhanbarth a allai ddenu mwy na £200m o gyllid i Ogledd Cymru.
Bydd pob un o chwe awdurdod Gogledd Cymru yn gweithio ar y cais twf, gyda’r nod o roi cyllid a phwerau sydd eu hangen i’r ardal i roi hwb i’r economi ar draws y rhanbarth.
Bydd uwch aelodau o Gyngor Wrecsam yn trafod y cais twf rhanbarthol mewn cyfarfod o’r Bwrdd Gweithredol yfory.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Yn ogystal â’r cais ei hun, bydd hyn hefyd yn amlinellu sut bydd pob un o chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru yn cydweithio ar y cais, gyda’r nod o’i gyflwyno i awdurdodau yng Nghaerdydd a Llundain.
Mae manylion llawn beth gaiff ei drafod yn y Bwrdd Gweithredol ar gael yma.
Beth yw cais twf?
Gyda faint o fuddsoddiad maen nhw’n ei gyflwyno a faint o waith sydd angen ei wneud i’w bodloni, gall ceisiadau twf edrych braidd yn gymhleth.
Ond nod bargeinion twf yw darparu cyllid, rhyddid a phwerau i ranbarthau sydd eu hangen arnynt i roi hwb wedi’i gydlynu iddynt.
Maen nhw’n gweld ardaloedd yn cael mwy o gyfrifoldeb am y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, a darpariaeth cyllid gan y llywodraeth.
Mae prosiectau tebyg, sydd eisoes wedi cael sylw ar draws y wlad, yn cynnwys Pwerdy Gogledd Lloegr, Bargen Rhanbarth Dinas Bae Abertawe a Bargen Rhanbarth Prif Ddinas Caerdydd.
“Cyfle gwych”
Dywedodd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae’r cais twf yn gyfle gwych i Ogledd Cymru ac i ni yn Wrecsam.
“Er bod llawer o botensial gwych, mae angen rhagor o fuddsoddiad cyn y gallwn ei ddatgloi go iawn a manteisio arno. Byddai rhoi’r pwerau ychwanegol sydd eu hangen arnom i ni, a’n helpu i gyflawni beth fyddai gyfwerth â £200m mewn cyllid i’r ardal, yn hwb cadarnhaol iawn i Wrecsam.
“Rwy’n edrych ymlaen at drafod y cais twf yn y Bwrdd Gweithredol.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI