Yn ddilyn ein ymgynghoriad Penderfyniadau Anodd yn ystod y gaeaf y blwyddyn diwethaf, penderfynwyd y cyngor i ddod i ben ein gwasanaeth cerddoriaeth, a’i rhedwyd gan yr Adran Addysg.
Rydym yn gwybod bod llawer o bobl wedi anghytuno â’r penderfyniad hwn – ac nid oedd yn benderfyniad hawdd i’w wneud.
Ond ar yr un pryd, roeddem am sicrhau nad oedd plant yn colli’r cyfle ar gyfer hyfforddiant a thiwtora pellach mewn cerddoriaeth.
Gyda hynny mewn cof, rydym wedi cynllunio dechrau Cydweithredfa Gerddoriaeth newydd i Wrecsam, a gaiff ei lansio ym mis Medi.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Er nad yw wedi’i ariannu gan Gyngor Wrecsam, mae ein Hadran Addysg wedi gweithio’n galed i sicrhau bod gwasanaeth newydd ar waith.
Bydd ar agor i bob disgybl, gyda chyllid ychwanegol ar gael i ddisgyblion sy’n cael Prydau Ysgol Am Ddim.
Mae’r gydweithredfa newydd eisoes wedi hyrwyddo’r gwasanaeth mewn ysgolion, gyda nifer o benaethiaid eisoes yn awyddus i weld eu hysgolion yn ymuno.
Bydd pecynnau gwersi grŵp ar gael hefyd, gyda phrisiau’n dechrau o £4.50 y wers, fesul disgybl.
Mae gwefan y gydweithredfa yn fyw yn www.wrexhammusiccoop.com – ac mae’n cael adborth da yn barod.
Be sy ar gael?
Mae amrywiaeth eang o wasanaethau yn cael eu cynnig dan y gydweithredfa, gan gynnwys:
- Y cwrs haf Music Mania newydd, sydd eisoes ar gael ar gyfer mis Awst eleni
- Athrawon llanw sy’n arbenigwyr cerddoriaeth ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd
- Therapi cerdd
- Rhaglenni cerddoriaeth cyfnod sylfaen gan gynnwys gweithdai “llwyau” a defnyddio’r corff fel offeryn taro
- Cyrsiau bît-bocsio a DJ
- Cymorth i ddisgyblion cerddoriaeth TGAU a Lefel A
- Amrywiaeth lawn o offerynnau ar gael i ddisgyblion
- Gweinyddwr llawn amser o Wrecsam ar gyfer tiwtoriaid, rhieni ac ysgolion Wrecsam
A llawer mwy.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Fel dywedom yn ystod amser Penderfyniadau Anodd, nid oedd yr un o’r opsiynau a oedd ar gael i ni yn opsiwn hawdd, ac nid oedd yr un yn llwybr roeddem am ei gymryd, ac roedd hyn yn wir ar gyfer y gwasanaeth cerddoriaeth.
“Ond ar yr un pryd, er ein bod yn ymwybodol o’r angen i wneud toriadau, roeddem hefyd am sicrhau y gellid cadw elfennau o’r gwasanaeth, byddem yn gwneud ein gorau i sicrhau y gallem eu parhau i’r dyfodol ac roedd y gydweithredfa gerddoriaeth newydd wedi’i chynllunio gyda hynny mewn cof.”