Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Be sy ar y gweill i Wal Pawb?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Be sy ar y gweill i Wal Pawb?
Pobl a lle

Be sy ar y gweill i Wal Pawb?

Diweddarwyd diwethaf: Awst 7, 2018 2:55 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Be sy ar y gweill i Wal Pawb?
RHANNU

Mae Wal Pawb, y ddau fwrdd posteri symudol ar waliau allanol Galeri 1, wedi profi’n boblogaidd gydag ymwelwyr yn barod fel nodwedd loyw a lliwgar o gynllun Tŷ Pawb.

Cynlluniwyd yr addurniadau ar Wal Pawb, sy’n dangos bwydi a nwyddau’r farchnad, gan arlunydd Katie Cuddon yn ystod y paratoadau am agoriad y canolfan yn Ebrill y flwyddyn yma.

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

Ond yn awr, mae’n amser i arlunydd newydd greu cynllun newydd.

Croeso i Kevin Hunt

Be sy ar y gweill i Wal Pawb?
Kevin Hunt

Ar ôl galw am geisiadau, yr ydym wedi dewis yr arlunydd Kevin Hunt i ddyfeisio’r cynlluniau am Wal Pawb 2019.

Yn dilyn cais agored am gynigion, mae Tŷ Pawb yn hynod falch o gyhoeddi enw’r artist sydd wedi’i ddewis ar gyfer comisiwn Wal Pawb 2019, sef Kevin Hunt.

Graddiodd Kevin o Ysgol Celf a Dylunio Gogledd Cymru – a elwir bellach yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol – ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, ac mae’n awr yn byw ac yn gweithio yn Lerpwl ar hyn o bryd, ond mae wedi cadw mewn cysylltiad cryf â’r dref ers iddo raddio 13 mlynedd yn ôl.

Gweithiodd Kevin ar nifer o brosiectau bach yn Wrecsam yn ystod y cyfnod hwnnw, ond ei gomisiwn Wal Pawb fydd y cyflwyniad mwyaf o’i waith yng Nghymru erioed.

Bydd Kevin yn gweithio ar safle Tŷ Pawb o fis Awst tan fis Mawrth 2019 pan fydd ei brosiect Wal Pawb yn cael ei osod.

Bydd Kevin hefyd yn gweithio’n agos gyda defnyddwyr Tŷ Pawb ac aelodau o’r gymuned ehangach yn Wrecsam i greu prosiect gwreiddiol, ac yn cydweithio gyda masnachwyr at Tŷ Pawb i greu cynnyrch newydd i Wrecsam fel rhan o’i gomisiwn.

Bydd Kevin yn cynnal darlith gyflwyniadol gan gyflwyno ei waith hyd yma ac ymestyn ar ei gynnig ar gyfer Wal Pawb ddydd Mercher 29 Awst am 6yh.

Cynhelir digwyddiadau ymgysylltu dan arweiniad yr artist ar ôl hynny ar drydydd dydd Mercher y mis o 19 Medi ymlaen.

“Wrth fy modd i weithio yn ôl yn Wrecsam”

Dywed Kevin: “Rwy’n hynod falch fy mod wedi cael fy newis ar gyfer comisiwn Wal Pawb yn Nhŷ Pawb a gallu gwireddu prosiect newydd aml-wyneb a fydd yn chwarae gyda strwythur y comisiwn tra’n gweithio ar y cyd â’r tîm a masnachwyr yn Nhŷ Pawb i ddatblygu cynnyrch newydd i Wrecsam.

“Rydw i wrth fy modd hefyd fy mod yn cael gweithio yn ôl yn Wrecsam, y dref lle astudiais a lle cefais nifer o fy mhrofiadau celf ffurfiannol bwysig.”

Dywed y Cynghorydd Hugh Jones, aelod arweiniol dros Gymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau: “Mae Wal Pawb yn nodwedd artistig bwysig yn Nhŷ Pawb sy’n pwysleisio’r croes-doriad rhwng yr oriel a neuadd y farchnad. Mae’n newyddion gwych bod Kevin Hunt, a raddiodd yn Wrecsam, wedi cael ei ddewis ar gyfer rhan nesaf y comisiwn hwn. Bydd Kevin yn gweithio gyda masnachwyr a staff Tŷ Pawb, yn ogystal â thrigolion lleol mewn modd arloesol gan sicrhau bod gwaith celf Wal Pawb yn ymdreiddio i neuadd y farchnad.”

Dywedodd Jo Marsh, Arweinydd y Celfyddydau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb: “Cawsom nifer fawr o geisiadau o safon uchel gyson ar gyfer ail gomisiwn Wal Pawb. Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gyflwynodd gais eleni.

“Mae’n wych ein bod wedi gallu dewis rhywun â phrofiad Kevin yn ogystal â rhywun sydd â chysylltiadau cryf â Wrecsam a hoffter go iawn o’r lle. Rydym yn siŵr y bydd pawb yn mwynhau gweithio gyda Kevin dros y misoedd nesaf.”

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/community_services/flytipping.htm “] DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Beth all ED ei wneud i chi! Beth all ED ei wneud i chi!
Erthygl nesaf Cynlluniau ar gyfer darpariaeth gerddoriaeth newydd ar gyfer ysgolion Cynlluniau ar gyfer darpariaeth gerddoriaeth newydd ar gyfer ysgolion

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English